Newyddion diweddaraf am yr ysgol yma!
Keep up to date with all the latest news happening in school at the moment!
Mae cyfrif Trydar newydd gan yr ysgol / The school has a new Twitter account.
Cofiwch ddilyn - Please follow:
@Rhyd_y_Grug
YDY EICH PLENTYN CHI WEDI COLLI’R CYFLE I GAEL Y BRECHLYN RHAG Y FFLIW YN YR YSGOL NEU’R FEDDYGFA? MAE CLINIGAU DAL-I-FYNY AR GAEL
PRYD?
Ionawr yr 22ain a’r 23ain
9am – 4pm (galwch heibio pryd bynnag y bydd yn gyfleus i chi)
BLE
Canolfan Frechu Gymunedol Llantrisant (Canolfan Hamdden Llantrisant, CF72 8DJ)
Canolfan Frechu Gymunedol Pen-y-bont ar Ogwr (Ravens Court, CF31 4AP)
Canolfan Frechu Gymunedol Merthyr Tydful (Canolfan Hamdden Merthyr Tydful, CF48 1UT)
Canolfan Frechu Gymunedol Aberpennar (Canolfan Bowlio Dan Do Cwm Cynon, CF45 4DA)
Canolfan Frechu Gymunedol y Rhondda (Canolfan Chwaraeon y Rhondda, CF41 7SY)
MAE’R FFLIW YN MYND O GWMPAS O HYD! Dydy hi ddim yn rhy hwyr i amddiffyn eich plentyn a’ch cymuned rhag y ffliw
MAE’R FFLIW YN MYND O GWMPAS RHWNG MIS MAWRTH A MIS HYDREF
Mae brechlyn un dos ar gael – os yw eich plentyn wedi cael y brechlyn y gaeaf hwn yn barod, fydd ddim angen un arall arno tan y gaeaf nesaf
PWY SY’N GALLU CAEL UN?
Plant rhwng 2 oed (2 oed ar 31ain Awst 2021) hyd at flwyddyn 11 yn yr ysgol
RHAGOR O
WYBODAETH AM Y FFLIW
https://icc.gig.cymru/pynci au/imiwneiddio-a
brechlynnau/brechlynffliw/
HAS YOUR CHILD
MISSED THE FLU
VACCINE IN SCHOOL OR AT THE GP
PRACTICE? CATCH-UP CLINICS AVAILABLE!
WHEN
January 22nd & 23rd
9am – 4pm (pop in when it suits you)
WHERE
Llantrisant CVC (Llantrisant Leisure Centre, CF72 8DJ) Bridgend CVC (Ravens Court, CF31 4AP)
Merthyr Tydfil CVC (Merthyr Tydfil Leisure Centre, CF48 1UT)
Mountain Ash CVC (Cynon Valley Indoor Bowls Centre, CF45 4DA)
Rhondda CVC (Rhondda Sports Centre, CF41 7SY)
FLU IS STILL
CIRCULATING
It’s not too late to
protect your child and your community from flu!
FLU CIRCULATES BETWEEN
OCTOBER-MARCH This is a single dose vaccine – if your child has already had the vaccine this winter, they do not need another dose until next winter.
WHO IS ELIGIBLE? Children aged 2 years (Aged 2 on 31st Aug 2021) to Year 11 in school.
MORE INFO ON FLU https://phw.nhs.wales/t opics/immunisation and-vaccines/fluvaccine/
Ysgol Gymraeg Rhyd y Grug
Aberfan
Merthyr Tudful / Merthyr Tydfil
CF48 4NT
Rhyd-y-grug.cymru
Ffôn / Telephone: 01685 35181
5.1.2022
Annwyl rieni / warcheidwaid,
Hoffwn ddymuno blwyddyn newydd dda i bob aelod o deulu Ysgol Gymraeg Rhyd y Grug. Gobeithiaf y cawsoch wyliau Nadolig iach a hapus. Mae’n fraint ysgrifennu fy llythyr cyntaf fel Pennaeth newydd yr ysgol ac rwyf wrth fy modd yn dychwelyd i’r cymoedd ar ôl dechrau fy ngyrfa yng nghymoedd Gwent yn 1993. Rwyf eisoes wedi profi ethos cyfeillgar a chroesawgar yr ysgol ac edrychaf ymlaen at eich cyfarfod chi a dod i’ch adnabod dros yr wythnosau nesaf.
Rwy’n falch iawn i gadarnhau y byddwn yn ailagor yr ysgol i bob disgybl ar ddydd Iau, Ionawr 6ed 2022. Nid oes newid i amseroedd dechrau a diwedd y dydd, a bydd y Clwb Brecwast yn agor fel arfer.
Mae’n gyfnod pryderus o hyd gyda Cofid-19 yn trosglwyddo’n gyflym yn y gymuned. Am hynny hoffwn dynnu eich sylw at y trefniadau allweddol isod er mwyn diogelu ein rhieni, disgyblion a staff.
Trefniadau ar y safle:
· Cadw at reolau ymbellhau cymdeithasol
· Disgyblion i gael mynediad a’u casglu trwy ddrysau unigol y dosbarthiadau
· Gwisgo mwgwd heblaw eich bod wedi eithrio’n feddygol
Trefniadau Cofid-19:
NI ddylid anfon unrhyw ddisgybl i’r ysgol sy’n dangos symptomau Cofid-19.
Y tri prif symptom yw:
· Tymheredd uchel – bydd brest neu gefn eich plentyn yn teimlo’n boeth i gyffwrdd (nid oes angen thermomedr)
· Peswch cyson, parhaus – hynny yw, peswch llawer am fwy nag awr neu 3 neu fwy o bylau peswch mewn 24 awr.
· Colli synnwyr arogli neu flasu, neu newid yn y synnwyr arogli neu flasu.
· Os yw’ch plentyn yn arddangos unrhyw un o’r symptomau hyn, peidiwch â’i (h)anfon i’r ysgol a trefnwch brawf PCR. Gallwch drefnu prawf trwy wefan https://gov.wales/get-tested-coronavirus-covid-19
Dylai unrhyw un arall yn eich cartref sy’n dangos unrhyw un o’r symptomau hyn drefnu prawf PCR hefyd.
Ni ddylai plant dan 5 oed brofi am Cofid-19 heblaw bod y meddyg yn dweud wrthych am wneud. Fodd bynnag, dylech gadw’r plentyn adref tra bod symptomau ganddo/i.
Hysbyswch y staff drwy ebost neu Seesaw am ganlyniadau prawf PCR os gwelwch yn dda.
Diolch yn fawr iawn ymlaen llaw am eich cefnogaeth yn hyn o beth er ein lles ac iechyd ni i gyd, ac er mwyn cadw'r ysgol ar agor.
Edrychaf ymlaen at eich gweld yfory.
Dear parents / guardians,
I would like to wish every member of the Ysgol Gymraeg Rhyd y Grug family a very happy New Year. I hope you had a healthy and happy Christmas holiday. It is a privilege to write my first letter as the new Headteacher of the school and I am delighted to be returning to the Valleys following starting my career in the Gwent Valleys in 1993. I have already experienced the friendly and welcoming ethos of the school and look forward to meeting you and getting to know you over the next few weeks.
I am very pleased to confirm that we will be reopening the school for all pupils on Thursday, January 6th 2022. There is no change to start and end times of the day, and the Breakfast Club will open as normal.
It's still a worrying time with Covid-19 transmitting rapidly in the community. I therefore draw your attention to the key arrangements below for the protection of our parents, pupils and staff.
On-site arrangements:
• Adhere to social distancing rules
• Pupils to gain access and be collected through individual classroom doors
• Wear a mask unless you are medically exempt
Covid-19 arrangements:
No pupil should be sent to school showing symptoms of Covid-19.
The three main symptoms are:
• High temperature - your child's chest or back will feel hot to touch (no thermometer needed)
• New, persistent coughing - that is, coughing for more than one hour or 3 or more coughing episodes in 24 hours.
• Loss of sense of smell or taste, or change in sense of smell or taste.
• If your child is exhibiting any of these symptoms, do not send him / her to school and arrange a PCR test. You can arrange a test through the
https://gov.wales/get-tested-coronavirus-covid-19 website
Anyone else in your household who shows any of these symptoms should also arrange a PCR test.
Children under 5 should only test for Covid-19 if the doctor tells you to. However, you should keep the child home whilst he or she has symptoms.
Please inform staff by email or Seesaw of PCR test results.
Thank you very much in advance for your support with this, as we aim to keep all our community safe and well and the school open.
I look forward to seeing you tomorrow.
Yours sincerely,
Mrs Alwen M Bowen
Pennaeth / Headteacher
Mrs Alwen M Bowen
Pennaeth
Headteacher
Mrs Michelle Barry
Dirprwy Bennaeth
Deputy Headteacher