Navigation
Home Page

Gwennol

Croeso i dymor yr haf! Mae tymor prysur arall o’n blaenau!

 

Ein thema y tymor yma ydy ‘Iechyd Da'.

 

Yn ystod ein gwersi Hanes fe fyddwn yn dysgu am fywyd y Celtiaid. Fel rhan o’n gwaith Daearyddiaeth byddwn yn dysgu am y goedwig law trofannol. Trwy ein hastudiaethau Gwyddoniaeth byddwn yn dysgu am brosesau bywyd a phethau byw.

Fel rhan o’n gwaith iaith fe fyddwn yn ffocysu ar waith ffeithiol ar hanes a diwylliant Patagonia. Fe fydd ysgrifennu perswadiol ein gwaith Saesneg wedi'i seilio ar y ffilm 'Brave'.

 

Os oes gennych unrhyw wybodaeth neu arbenigedd yn y pynciau uchod fe fyddwn yn ddiolchgar os gallech chi eu rhannu gyda ni.

 

Welcome to the summer term! We have another busy term in ahead!

 

This term's theme is ‘Healthy Living’.

 

Within our History lessons we will be studying the life of the Celts and the focus of our Geography lessons will be tropical rainforests. During our Science lessons we will be studying life processes and living things. In our English lessons, our persuasive writing and language work will be based upon Disney's 'Brave' and in our Welsh lessons we will be learning and writing about the history and culture of Patagonia.

 

If you have any information or expertise on anything linked to our topics, we would be grateful if you could share this with our class.

 

Dydd Mercher ydy ein diwrnod Addysg Gorfforol a bydd angen gwisg addas: siorts, crys-t a threinyrs. Fel ysgol, rydym yn awyddus i gerdded cilometr bob dydd felly mae’n bwysig bod gan y plant esgidiau addas yn yr ysgol.

 

Fe fydd pob plentyn yn derbyn gwersi trombôn ar brynhawn Dydd Iau tan ddiwedd y tymor.

 

Wednesday is our P.E. day and all pupils will need a suitable kit: shorts, t-shirt and trainers. As a school, we are eager to walk a kilometer every day, therefore it is advisable that pupils have appropriate footwear with them every day.

 

Every pupil in the class will receive trombone lessons on a Thursday afternoon until the end of term.

 

 

Fel arfer, gosodir gwaith cartref o ryw fath ar ddydd Gwener a rhaid cofio ei ddychwelyd erbyn y Dydd Mawrth canlynol. Disgwylir i bob plentyn ddarllen llyfrau Saesneg a Chymraeg yn gyson adref. Ar ben hyn mae gan bob disgybl set o dablau Mathemateg a geiriau sillafu Cymraeg a Saesneg (yn briodol ar gyfer eu lefel personol) yn eu ffowlderi ‘Cyswllt Cartref’. Rydym yn ffocysu ar adolygu pob tabl yn ystod y tymor yma. Gwerthfawrogwn yn fawr os gallech chi brofi eich plentyn ar ei dablau yn gyson adref.

 

Homework is usually set on Fridays and should be returned the following Tuesday. All children are expected to read both English and Welsh reading books regularly at home. All children also have a set of times tables and spelling words, which are appropriate for the level at which they are working, in their 'Cyswllt Cartref' folders. We are focusing on revising every times tables this term. It would be greatly appreciated if you could test your child on their times tables on a regular basis.

 

Gwefannau defnyddiol:

 

http://www.bbc.co.uk/cymru/gemau/

 

http://www.bbc.co.uk/bitesize/ks2/english/spelling_grammar/

 

http://adnoddau.cbac.co.uk/Pages/ResourceSingle.aspx?rIid=71

 

http://www.topmarks.co.uk/Flash.aspx?f=SpeedChallenge

Prynhawn Celfyddydau Bl 5 yn Ysgol Rhydywaun

Croeso i dymor y Gwanwyn!

 

Welcome to the Spring term!

 

Ein thema y tymor yma ydy ‘Glanlanwyr’.

 

Yn ystod ein gwersi Hanes fe fyddwn yn edrych ar fywyd y Tuduriaid. Bydd gwersi Celf yn ffocysu ar gelf yr Indiaid Brodorol. Byddwn yn astudio llosgfynyddoedd yn ein gwersi Daearyddiaeth. Trwy ein hastudiaethau Gwyddoniaeth byddwn yn dysgu am y gylchred ddŵr. Ein llyfr dosbarth y tymor hwn yw ' The Amazing Story of Adolphus Tips' gan Michael Morpugo. Byddwn hefyd yn ymgyfarwyddo â stori 'Peidiwch Byth â Gweiddi, "Blaidd!" 

 

Os oes gennych unrhyw wybodaeth neu arbenigedd yn y pynciau uchod, fe fyddwn yn ddiolchgar os gallech chi eu rhannu gyda ni.

 

 

This term's theme is 'Explorers’.

 

Within our History lessons we will be looking at what life was like during Tudor times. Art lessons will focus upon the theme of Native American Indians. During our Science lessons we will be looking at the water cycle and within Geography lessons we will be studying volcanoes. Our class book this term will be 'The Amazing Story of Adolphus Tips' by Michael Morpurgo. During our Welsh language lesson, we will be looking at the fable of 'Peidiwch Byth a gweiddi, "Blaidd!" (The Boy Who Cried Wolf).

 

If you have any information or expertise on anything linked to our topics, we would be grateful if you could share this with our class.

 

Dydd Iau ydy ein diwrnod Addysg Gorfforol a bydd angen gwisg addas: siorts, crys-t, trainyrs a gwisg tracsiwt yn y gaeaf. Hefyd, mae'r plant yn derbyn gwersi trwmped a thrombon bob prynhawn Dydd Iau gyda Mrs Jones.

 

 

Thursday is our P.E. day and all pupils will need a suitable kit: shorts, t-shirt and trainers and tracksuit bottoms in the winter. In addition, pupils recieve trumpet and trombone lessons with Mrs Jones every Thursday afternoon. 

 

Fel arfer, gosodir gwaith cartref o ryw fath ar ddydd Gwener a rhaid cofio ei ddychwelyd erbyn y Dydd Mawrth canlynol. Disgwylir i bob plentyn ddarllen llyfrau Saesneg a Chymraeg yn gyson adref. Ar ben hyn mae gan bob disgybl set o dablau Mathemateg a geiriau sillafu Cymraeg a Saesneg (yn briodol ar gyfer eu lefel personol) yn eu ffowlderi ‘Cyswllt Cartref’. Gwerthfawrogwn yn fawr os gallech chi brofi eich plentyn ar ei dablau yn gyson adref. Diolch yn fawr.

 

Homework is usually set on Fridays and should be returned the following Tuesday. All children are expected to read both English and Welsh reading books regularly at home. All children also have a set of times tables and spelling words, which are appropriate for the level at which they are working, in their 'Cyswllt Cartref' folders. It would be greatly appreciated if you could test your child on their times tables on a regular basis. Thank you.

 

Mrs Donnison

Croeso i dudalen Dosbarth Gwennol!    Welcome to our class page!

 

Ein thema y tymor yma ydy ‘Teithio trwy’r ganrif’

 

Yn ystod ein gwersi Hanes fe fyddwn yn edrych ar fywyd ym Mhrydain yn ystod yr Ail Ryfel Byd a thu hwnt. Bydd gwersi Celf yn ffocysu ar ddarluniau eiconig y 1940au a’r 1950au a byddwn yn astudio cerddoriaeth roc a rôl yn ein gwersi Cerddoriaeth. Trwy ein hastudiaethau Gwyddoniaeth byddwn yn dysgu sut mae grymoedd yn gweithio. Byddwn yn dysgu mwy am Gymru yn ein gwersi Daearyddiaeth.

 

Bydd ffocws ein gwaith Saesneg ar lyfr David Walliams ‘Gangsta Granny’ a’n gwaith Cymraeg ar lyfr ‘Rhyfel Sam’ gan Glenys Lloyd.

 

Os oes gennych unrhyw wybodaeth neu arbenigedd yn y pynciau uchod, fe fyddwn yn ddiolchgar os gallech chi eu rhannu gyda ni.

 

 

This term's theme is ‘Travelling through the century’

 

Within our History lessons we will be looking at what life in Britain was like during and after the Second World War. Art lessons will focus upon the iconic images of the 1940s and 1950s and we will be looking at the genre of rock and roll in our Music lessons. During our Science lessons we will be looking at how different forces work. We will also be learning more about Wales in our Geography lessons.

 

We will be reading ‘Gangsta Granny’ by David Walliams in our English lessons and our Welsh lessons will focus around the story of an evacuee in ‘Rhyfel Sam’ by Glenys Lloyd.

 

 

If you have any information or expertise on anything linked to our topics, we would be grateful if you could share this with our class.

 

 

Rydym yn ddosbarth bywiog, brwdfrydig a gweithgar. Mrs Donnison yw'r athrawes dosbarth ac mae Mrs Joll yn ein cynorthwyo. Mae 27 o blant yn ein dosbarth i gyd.

 

We are a lively, enthusiastic and hardworking class. Mrs Donnison is our class teacher Mrs Joll is our Teaching Assistant. There are 27 children in our class.

 

Dydd Iau ydy ein diwrnod Addysg Gorfforol a bydd angen gwisg addas: siorts, crys-t, trainyrs a gwisg tracsiwt yn y gaeaf.

 

Thursday is our P.E. day and all pupils will need a suitable kit: shorts, t-shirt and trainers and tracksuit bottoms in the winter.

 

Fel arfer, gosodir gwaith cartref o ryw fath ar ddydd Gwener a rhaid cofio ei ddychwelyd erbyn y Dydd Mawrth canlynol. Disgwylir i bob plentyn ddarllen llyfrau Saesneg a Chymraeg yn gyson adref a chofnodi eu cynnydd yn eu Cofnod Darllen. Ar ben hyn mae gan bob disgybl set o dablau Mathemateg a geiriau sillafu Cymraeg a Saesneg (yn briodol ar gyfer eu lefel personol) yn eu ffowlderi ‘Cyswllt Cartref’.

 

Homework is usually set on Fridays and should be returned the following Tuesday. All children are expected to read both English and Welsh reading books regularly at home and record their progress in their Reading Records. All children also have a set of times tables and spelling words, which are appropriate for the level at which they are working, in their 'Cyswllt Cartref' folders.

 

 

Diolch, Mrs. Donnison

 

 

Helo Rhieni,

Sbarc a Seren ydyn ni! Byddwn ni’n gymeriadau pwysig iawn ym mywyd eich plant yn ystod y misoedd nesaf. Ni yw cymeriadau swyddogol y Siarter Iaith.

Beth yw’r Siarter Iaith?

Nod y Siarter Iaith yw annog plant i siarad Cymraeg yn amlach mewn sefyllfaoedd cymdeithasol. Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am arwain y Siarter, ac yn eu geiriau nhw, ‘Mewn gair, ysbrydoli ein plant a’n pobl ifanc i ddefnyddio’u Cymraeg ym mhob agwedd o’u bywydau’ yw’r nod. Dros y tair blynedd nesaf, bydd pob plentyn ym mhob ysgol Gymraeg yn cael cyfle i ennill gwobr efydd, arian ac aur. Mae hyn yn dibynnu ar faint o Gymraeg maen nhw’n ei siarad o ddydd i ddydd - mewn sefyllfaoedd amrywiol yn yr ysgol a’r gymuned. Mae’r Siarter Iaith yn gyfle i bawb yng nghymuned yr ysgol chwarae eu rhan wrth hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg - cyngor yr ysgol, y disgyblion, y gweithlu, rhieni, llywodraethwyr a’r gymuned ehangach er mwyn sicrhau perchnogaeth lawn o’r iaith.

 

Beth yw manteision y Siarter Iaith?

Rydych chi eisoes wedi dewis addysg Gymraeg i’ch plentyn ac yn deall manteision medru siarad dwy iaith. Mae cywirdeb iaith yn holl bwysig yn nhermau cyrhaeddiad addysgol plant. Y ffordd orau o sicrhau hyn wrth eich bod chi, fel cymuned yr ysgol, yn annog eich plentyn i ddefnyddio’r Gymraeg ar bob cyfle posibl.

Rydym ni yn gyffrous iawn i weithio gyda phob rhiant i gynyddu faint o Gymraeg sy’n cael ei siarad ym mhob ysgol. Edrychwch mas am ddigwyddiadau cyffrous yn fuan iawn!

 

Hello Parents,

We are Sbarc and Seren. You are sure to see a lot of us around the school over the coming months. We are the official characters for the Welsh Language Charter.

What is the Welsh Language Charter?

The main aim of the charter is to create an increase in the children’s social use of Welsh. We want to inspire our children and young people to use Welsh in every aspect of their lives. Over the next three years the school will have the opportunity to win a bronze, silver and gold award. The Welsh Language Charter asks for a contribution from every member of the school community – the pupils, the school council, the staff, the parents, the governors and the community.

 

What are the advantages of the Charter?

Raising the standard of the children’s spoken Welsh will have a positive effect on their educational attainment. Research shows that bilingual children achieve better results.

Top