Navigation
Home Page

Gwennol

Ein gwaith Celf Charlie Mackesy / Our Charlie Mackesy Artwork

Diwrnod Diwali - creu Mandalas

Diwrnod Diwali- Lampiau Diva

Dyma ni!

Croeso i dudalen dosbarth Gwennol! Rydym yn ddosbarth bywiog, brwdfrydig a gweithgar. Mae 25 o blant yn ein dosbarth ni ac rydym yn lwcus i gael cymorth Mr Denby bob dydd.

 

Welcome to dosbarth Gwennol’s class page! We are a lively, enthusiastic and hardworking class. We are a class of 25 pupils and we are very lucky to have Mr Denby’s help every day.

 

 

Dydd Mawrth ydy ein diwrnod Addysg Gorfforol a bydd angen gwisgo gwisg addas ar gyfer chwaraeon tu allan i'r ysgol ar y diwrnod hwnnw. Bydd gweithgareddau awyr agored arall yn digwydd yn achlysurol trwy gydol y tymor lle na fydd angen gwisg.

 

Tuesday is our P.E. day and all pupils will need to wear a suitable kit for outdoor games to school on this day. Many outdoor activities will be taking place throughout the term but no kit will be needed here.

 

Mae'r tasgau gwaith cartref yn cael eu gosod ar ddechrau pob hanner tymor. Disgwylir i'r plant gwblhau o leiaf tri thasg (o'u dewis nhw) o fewn yr hanner tymor hwnnw. Disgwylir i bob plentyn ddarllen llyfrau Saesneg a Chymraeg yn gyson adref (dewis rhydd ar gyfer MWYNHAD – mae digonedd o lyfrau ar gael yn y dosbarth neu lyfr o’r tŷ). 

 

Homework tasks are given at the beginning of each half term. Children are expected to complete at least three tasks (of their choice) during the half term period. All children are expected to read both English and Welsh reading books regularly at home (free choice for ENJOYMENT - there are plenty of books to choose from in class or a book from home).

 

Yn ystod ein gwersi Hanes a Chelf fe fyddwn yn edrych ar fywyd ym Mhrydain yn ystod yr Ail Ryfel Byd a thu hwnt. Trwy ein hastudiaethau Gwyddoniaeth byddwn yn dysgu sut mae grymoedd yn gweithio. Byddwn yn dysgu mwy am Gymru yn ein gwersi Daearyddiaeth.

 

Bydd ein gwaith Saesneg yn ffocysu ar nofel David Walliams ‘Gangsta Granny’ a’n gwaith Cymraeg yn seiliedig ar y ffilm Disney ‘UP’.

 

Os oes gennych unrhyw wybodaeth neu arbenigedd yn y pynciau uchod, fe fyddwn yn ddiolchgar os gallech chi eu rhannu gyda ni.

 

 

In our History and Art lessons we will be looking at what life in Britain was like during and after the Second World War. We will be learning about forces in our Science lessons. In our Geography lessons, we will be learning more about our own country of Wales.

 

Our English lessons will be based upon the novel ‘Gangsta Granny’ by David Walliams and Disney’s Up in our Welsh lessons.

 

If you have any information or expertise on anything linked to our topics, we would be grateful if you could share this with our class.

 

Please don't hesitate to email me at: bethan.donnison@rhyd-y-grug.cymru 

 

Diolch,

Mrs Donnison

 

 

 

Top