Navigation
Home Page

Glas y Dorlan

Croeso i dudalen Dosbarth Glas y Dorlan!

 

Welcome to our class page!

 

Ein Thema y Tymor yma ydy ‘Iechyd Da!’

Dyma gyfle i edrych ar fwydydd iachus a chynnyrch lleol. Byddwn yn ymchwilio i fantesion ac anfanteision prynu bwydydd o fasnachwyr lleol yn ogystal ag edrych ar yr effaith negyddol mae ‘Airmiles’ bwydydd sy’n teithio o dramor yn cael ar ein planed. Edrychwn ar sut mae cadw ein cyrff yn iachus, beth ydy swyddogaethau prif organau’r corff a sut mae’r sgerbwd yn gweithio. Byddwn hefyd yn astudio amodau tyfu a ffynu planhigion a chadwyni bwyd anifeiliaid. Trwy ein hastudiaethau Hanes byddwn yn edrych ar sut mae'r byd wedi newid ers diwedd yr Ail Rhyfel Byd ac yn y sesiynau Addysg Grefyddol dysgwn am storiau creu Cristnogaeth, Hindwaeth ac Islam yn ogystal a theori 'Big Bang' gwyddonwyr.

 

This term's theme is 'Good Health!'

We will be finding out about healthy foods and local produce. We will research the pros and cons of buying food which has been grown locally. We will also look at the negative impact food 'Airmiles' - buying food which has been shipped or flown from abroad - has on our planet. We will research the best ways to keep ourselves healthy, the functions of our internal organs and how our skeletons work. We also study flowers and plants - their life cycles, photosynthesis and growing conditions, as well as food chains in the animal world. Through our history studies we will look at the way the world has changed since the end of the Second World War and in our Religious Education studies we will compare the creation stories of Christianity, Hinduism and Islam as well as the scientific 'Big Bang Theory'.

 

Mae 30 o blant yn ein dosbarth; 15 ym mlwyddyn 6 a 15 ym mlwyddyn 5.

 

There are 30 children in our class; 15 from year 6 and 15 from year 5.

 

Dydd Mawrth ydy ein diwrnod Addysg Gorfforol a bydd angen gwisg addas: siorts, crys-t a trainyrs. Bydd gweithgareddau awyr agored arall yn digwydd yn achlysurol trwy gydol y tymor lle na fydd angen gwisg.

 

Tuesday is our P.E. day and all puplis will nedd a suitable kit: shorts, t-shirt and trainers. Many outdoor activities will be taking place throughout the term but no kit will be needed here.

 

Fel arfer, bydd gwaith cartref yn cael ei osod ar ddydd Gwener i’w ddychwelyd erbyn y Dydd Llun canlynol. Disgwylir i bob plentyn ddarllen llyfrau Saesneg a Chymraeg yn gyson adref (dewis rhydd – mae digonedd o lyfrau ar gael yn y dosbarth neu lyfr o’r tŷ). Ar ben hyn mae gen bob disgybl set o dablau Mathemateg a geiriau sillafu Cymraeg a Saesneg (yn briodol ar gyfer eu lefel personol) yn eu ffowlderi ‘Cyswllt Cartref’.

 

Homework is usually set on Fridays to be returned the following Monday. All children are expected to read both English and Welsh reading books regularly at home (free choice - there are plenty of books to choose from in class or a book from home). All children also have a set of times tables and spelling words, which are appropriate for the level at which they are working, in their 'Cyswllt Cartref' folders.

 

Mae Tymor yr Haf bob tro yn un prysur a hwylus dros ben ac edrychaf ymlaen yn fawr at wythnosau o ddysgu, datblygu a llwyddo gyda’n gilydd!

 

The Summer term is always a busy and fun term and I very much look forward to the coming weeks where we can learn, develop and succeed together!

 

Diolch, Mrs. Hedges

Top