Navigation
Home Page

Cnocell y Coed 2

Croeso i ddosbarth Cnocell y Coed 2!
Welcome to class Cnocell y Coed 2!
 

Mae 29 o blant yn ein dosbarth. Miss Long yw ein hathrawes ac mae Miss Hicks yn ein helpu.
There are 29 children in our class. Miss Long is our teacher and Miss Hicks helps us.

 
Croeso i dymor yr Haf!
Welcome to the Summer Term.

Ein thema am yr hanner tymor cyntaf yw Corff Iachus, Meddwl Iachus. Byddwn yn edrych ar sut i gadw'n iachus, bwydydd gwahanol a gweithgareddau coginio. Yn yr ail hanner tymor, byddwn yn edrych ar deithio, gwyliau a gwledydd gwahanol yn ein thema 'Ydyn ni yna eto?'.
Our theme for the first half term is 'Healthy Body, Healthy Mind'. We will be looking at how to stay healthy, different foods and cooking activities. In the second half term, we will be looking at travelling, holidays and different countries in our theme 'Are we there yet?'

Cofiwch, Dydd Llun yw ein diwrnod Ymarfer Corff. Bydd angen gwisg addas a trainers.
Remember, Monday is our P.E. day. Suitable clothing and trainers will be needed.


 

Trip i Gastell Caerdydd / Cardiff Castle trip

Blwyddyn Newydd Dda!
Happy New Year!


Croeso i dymor y Gwanwyn!
Welcome to the Spring Term!

Ein thema'r tymor yma yw 'Chwedlau'r Ddraig'.
 Byddwn yn edrych ar chwedlau Cymreig, cestyll a Chymru yn ystod yr hanner tymor cyntaf, gan ganolbwyntio ar hud a lledrith a straeon tylwyth teg yn yr ail hanner tymor.


Our theme this term is 'Castles and Dragons'. We will be looking at Welsh legends, castles and Wales during the first half term, and concentrating on fairytales and magic in the second half term.

Rydym dal yn datblygu ein hardal tu allan, felly os oes gennych unrhyw bibau dŵr, adnoddau garddio, hen ddefnydd a.y.y.b. byddwn yn ddiolchgar iawn. Diolch!
We are still developing our outside area, and would be grateful of any water pipes, gardening equipment, old material etc, if you are able to help us. Diolch!

Cofiwch, rydym yn gwneud ymarfer corff ar brynhawn Ddydd Llun. Mae angen cofio dillad addas ar y diwrnod yma os gwelwch yn dda.
Please remember our P.E. lessons are on a Monday afternoon. Suitable clothing will be needed for these lessons. Thank you.  

Trip i Sain Ffagan / St Fagans Trip

Trip i Dan yr Ogof / Trip to Dan yr Ogof

Thema y tymor yw Albwm y Teulu.
Byddwn yn dysgu am dathliadau, teulu, deunyddiau, a llawer mwy!

Our theme this term is Family Album.
We will be learning about celebrations, family, materials and much more!


Mae Ymarfer Corff ar Ddydd Llun. Fe fydd angen cit priodol ac esgidiau rhedeg ar gyfer y gwersi, wedi ei labelu yn glir gydag enw eich plentyn, os gwelwch yn dda.
P.E. is on Mondays. Pupils will need to bring appropriate kit and trainers for these lessons please, with their name clearly labelled.

Os ydy'ch plentyn yn dod a Cai y Gath adref am y penwythnos, a wnewch chi dynnu llun eich plentyn gyda Cai a'i anfon i'r ysgol.
If your child brings Cai the Cat home for the weekend, please could you take a photo of your child with Cai and send it into school.

Fe fydd gwaith cartref yn cael ei osod ar Ddydd Iau, ac fe fydd angen ei ddychwelyd ar Ddydd Llun os gwelwch yn dda. Gofynnwn i chi ddarllen gyda'ch plentyn bob nos, a chofnodi yn y llyfr cofnod.
Homework will be set on Thursday, and needs to be returned to school on Monday please. Please can you read with your child every night, and write in the home record book.  

Mae ardal tu allan newydd gennym eleni, ac rydym yn awyddus i'w ddatblygu. Os oes gennych chi unrhyw hen offer cegin, pibellau neu offer garddio byddwn yn ddiolchgar iawn!
We have a new outside area this year, which we are very eager to develop. If you have any old kitchen equipment, pipes or gardening equipment at home, we would be very grateful!

Diolch yn Fawr!
Miss Long

 

 

 

Helo Rhieni,

Sbarc a Seren ydyn ni! Byddwn ni’n gymeriadau pwysig iawn ym mywyd eich plant yn ystod y misoedd nesaf. Ni yw cymeriadau swyddogol y Siarter Iaith.

Beth yw’r Siarter Iaith?

Nod y Siarter Iaith yw annog plant i siarad Cymraeg yn amlach mewn sefyllfaoedd cymdeithasol. Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am arwain y Siarter, ac yn eu geiriau nhw, ‘Mewn gair, ysbrydoli ein plant a’n pobl ifanc i ddefnyddio’u Cymraeg ym mhob agwedd o’u bywydau’ yw’r nod. Dros y tair blynedd nesaf, bydd pob plentyn ym mhob ysgol Gymraeg yn cael cyfle i ennill gwobr efydd, arian ac aur. Mae hyn yn dibynnu ar faint o Gymraeg maen nhw’n ei siarad o ddydd i ddydd - mewn sefyllfaoedd amrywiol yn yr ysgol a’r gymuned. Mae’r Siarter Iaith yn gyfle i bawb yng nghymuned yr ysgol chwarae eu rhan wrth hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg - cyngor yr ysgol, y disgyblion, y gweithlu, rhieni, llywodraethwyr a’r gymuned ehangach er mwyn sicrhau perchnogaeth lawn o’r iaith.

 

Beth yw manteision y Siarter Iaith?

Rydych chi eisoes wedi dewis addysg Gymraeg i’ch plentyn ac yn deall manteision medru siarad dwy iaith. Mae cywirdeb iaith yn holl bwysig yn nhermau cyrhaeddiad addysgol plant. Y ffordd orau o sicrhau hyn wrth eich bod chi, fel cymuned yr ysgol, yn annog eich plentyn i ddefnyddio’r Gymraeg ar bob cyfle posibl.

Rydym ni yn gyffrous iawn i weithio gyda phob rhiant i gynyddu faint o Gymraeg sy’n cael ei siarad ym mhob ysgol. Edrychwch mas am ddigwyddiadau cyffrous yn fuan iawn!

 

Hello Parents,

We are Sbarc and Seren. You are sure to see a lot of us around the school over the coming months. We are the official characters for the Welsh Language Charter.

What is the Welsh Language Charter?

The main aim of the charter is to create an increase in the children’s social use of Welsh. We want to inspire our children and young people to use Welsh in every aspect of their lives. Over the next three years the school will have the opportunity to win a bronze, silver and gold award. The Welsh Language Charter asks for a contribution from every member of the school community – the pupils, the school council, the staff, the parents, the governors and the community.

 

What are the advantages of the Charter?

Raising the standard of the children’s spoken Welsh will have a positive effect on their educational attainment. Research shows that bilingual children achieve better results.

Top