Navigation
Home Page

Titw Tomos Las 1

 

Croeso i Ddosbarth Titw Tomos Las. Mae 21 o blant yn ein dosbarth.

Welcome to our class, Titw Tomos Las. There are 21 of us altogether!

Tymor yr Haf o’r diwedd!

Finally, the Summer term has arrived!

 

Thema Cyfnod Allweddol 2 yn ystod Tymor yr Haf yw ‘Iechyd Da’. Mi fyddwn ni yn nosbarth Titw Tomos Las yn astudio nifer o bynciau diddorol. Yn amrywio o brif organau'r bodau dynol, dannedd a phwysigrwydd iechyd, i hanes a celf y Celtiaid. Mi fyddwn hefyd yn mwynhau ymchwilio i mewn i anifeiliaid a’u cynefinoedd. Yn ein gwersi Cymraeg rydyn yn dysgu stori ‘Sioncyn y gwair a’r Morgrugyn, a nofel Michael Morpurgo ‘The Butterfly Lion’ yn Saesneg. Mi fyddwn yn parhau gyda grwpiau Mathemateg ar ôl y profion cenedlaethol sy’n digwydd ar ddechrau mis Mai.

 

Our theme in Key Stage 2 this term is `Good Health`. Titw Tomos Las will be studying a number of exciting subjects. These will include major organs of the body, teeth and the importance of a healthy diet and lifestyle. We will also be studying animals and their environments. In our Welsh lessons we are learning the story about the Grasshopper and the Ant, and Michael Morpurgo’s novel ‘The Butterfly Lion’ in English. We will continue our Mathematic groups following the national tests that are being held at the beginning of May.

 

Mi fyddwn yn cynnal gweithgareddau Addysg Gorfforol ar brynhawn Ddydd Mercher. Bydd cyfleoedd i’r plant ymarfer athletau a tenis. Mae’n bwysig bod pawb yn cofio dod â dillad addas. Yn nhymor yr haf mae hefyd angen cofio treiners oherwydd mi fyddwn yn dysgu yn yr awyr agored. Yn ogystâl â hyn, mae’r ysgol i gyd am gerdded neu redeg Kilometr bob dydd. sef tair gwaith o amgylch y cae!

Our PE day will be on Wednesday - this term we will develop our tennis skills and practice athletics. Please remember to send trainers to school to help with outdoor activities. As well as this, the whole school will be walking or running a kilometer every day, three laps of our field!

 

Mae disgwyl i’r plant parhau i ymarfer darllen pob nos er mwyn gwella sgiliau a symud ymlaen yn y gyfres darllen. Hefyd, bydd gan y plant cyfle i ddewis llyfr ychwanegol, er mwyn mwynhau ac ennyn diddordeb. Hefyd, mae angen i blant parhau i ymarfer llawysgrifen, tablau a sillafu. Mae disgwyl i’r plant cyflawni tasgau gwaith cartref dros y penwythnos i safon uchel os gwelwch yn dda.

The pupils are expected to read every night to develop skills and move on the in the reading scheme. The pupils will be able to choose extra books for them to enjoy and develop personal interests in reading. Children are also expected to continue to practice handwriting, times tables and spelling.

 

Hoffwn i ddiolch i chi am eich g waith caled mor belled y flwyddyn yma. Edrychwn ymlaen at fwynhau anturiaethau’r haf!

Thank you all for your hard work so far this year! Looking forward to the summer term adventures!

 

 

 

 

Croeso yn ôl a blwyddyn newydd dda i chi. Rydyn yn edrych ymlaen at fwynhau anturiaethau tymor y Gwanwyn.

Welcome back and a happy new year to you all. We are looking forward to the adventures that the spring term has in store for us.

 

Mi fyddwn ni yn parhau gydag ein diwrnodau prysur. Gan ddechrau gyda sesiwn byr ymarfer llawysgrifen. Y tymor yma mi fydd rhai plant yn barod i ddefnyddio pen i wneud eu gwaith. Mae'n rhaid dysgu ysgrifennu gyda llawysgrifen taclus glwm heb wneud llawer o gamgymeriadau cyn ennill trwydded pen. Ar ôl hynny mi fydd sesiynau iaith yn dechrau. Rydyn yn edrych ymlaen at ddysgu fersiwn Pie Corbett o stori Melangell a mwynhau dilyniant o wersi Saesneg ar ‘Fairytales’. Ar ôl hynny rydyn yn rhannu i mewn i grwpiau mathemateg, rhai yn dysgu gyda fi (Miss Clement), Mrs Davies/Tricker neu Mr Morgan. Cyn cinio mi fyddwn yn rhannu i mewn i grwpiau darllen Cymraeg a Read Write Inc.

We will continue with our very busy daily routines. Beginning our day with a short handwriting practice session. This term some children will be ready to use a pen to do their work, handwriting needs to be neatly joined with minimal mistakes before earning a pen licence. After that language sessions will begin. During our Welsh sessions will be learning Pie Corbett’s version of ‘Stori Melangell’ and we will enjoy a series of lessons on Fairy tales in our English sessions. After language, children will separate into Maths groups with either me (Miss Clement), Mrs Davies/Tricker or Mr Morgan. We will then meet with our Welsh reading/Read Write Inc. groups before lunch.

 

Yn y prynhawn rydyn yn ffocysu ar waith thema. Thema Cyfnod Allweddol 2 yn ystod Tymor y Gwanwyn yw ‘Glanlanwyr’. Mi fyddwn yn dysgu am gelf a cherddoriaeth Affricanaidd a chwilio am ei leoliad ar glôb a map. Rydyn am gymharu gwlad Affricanaidd a Chymru o ran maint, economi a thywydd. Yn ein gwersi Hanes edrychwn ymlaen at ddysgu am y Tuduriaid. Mae gwersi Addysg Gorfforol yn digwydd ar brynhawn Ddydd Mercher. Rydyn ni’n mynd i fwynhau gwersi gymnasteg y tymor yma. Mae’n bwysig fod pawb yn cofio dod â dillad ymarfer corff sef siorts du a chrys-t gwyn.

During the afternoon we focus on our thematic work. Our theme in the spring term is 'Castaways'. We will be learning about African Art and Music and its location on a globe and map. We will be making comparisons of an African country and Wales, looking at size, economy and weather. In our History lessons we look forward to learning about the Tudors. Physical education lessons take place on a Wednesday afternoon. We will be doing Gymnastics this term. It is important that everyone brings a pair of black shorts and a white t-shirt in every week.

 

Mae disgwyl i’r plant parhau i ymarfer darllen pob nos er mwyn gwella sgiliau a symud ymlaen yn y gyfres darllen. Unwaith bod y plant yn barod, byddant yn gorffen y gyfres darllen ac mi fydd llawer o lyfrau stori ddiddorol a hwyliog ar gael i ddewis a mynd adref. Yn y ffeil cartref bydd cyfleoedd i blant ymarfer llawysgrifen, sillafu a thablau lluosi yn y tŷ yn ystod yr wythnos. Mae disgwyl i’r plant cyflawni tasgau gwaith cartref dros y penwythnos i safon uchel os gwelwch yn dda. Rydw i’n casglu gwaith cartref ar Ddydd Mawrth.

Children are expected to continue practicing their reading every night in order to better their skills and move on in the reading scheme. Once the children are ready they will finish the reading scheme and will be able to choose some interesting and exciting books from the class to take home and read. In the home file there will be opportunities for the children to practice handwriting skills, spelling and multiplication tables at home during the week. The children are expected to complete homework tasks over the weekend to a high standard please. I will be collecting homework on Tuesdays.

Diolch am eich cefnogaeth. Welwn ni chi cyn hir!

Thank you for your continued support. See you all soon.

Miss Clement

Top