Navigation
Home Page

Drudwy

Hoffw

 

 

Hoffwn gymryd y cyfle yma i egluro rhai o drefniadau’r tymor i chi. Ynghlwm â’r llythyr mae amlinelliad o thema'r tymor a’r gwaith y byddwn yn cyflawni yn y dosbarth.

 

Ein dosbarth

Yn nosbarth Drudwy mae yna 27 o ddisgyblion. Rydyn ni fel dosbarth yn gweithio’n galed ac yn mwynhau pob dydd. Rydyn ni yn ymdrechu i ddangos parch tuag at bawb a phopeth ac yn disgwyl derbyn yr un parch yn ôl. Y pobl mawr yn ein dosbarth yw Mr Morgan a Miss Thomas.

 

Gwaith Cartref

Fe fydd gwaith cartref yn cael ei rhoi yn wythnosol ar brynhawn ddydd Gwener. Mae disgwyl i’r plant gwblhau'r dasg cartref a’i ddychwelyd yn ôl i’r ysgol erbyn bore dydd Mawrth.

Hefyd, mae disgwyl i bob plentyn ddarllen o leiaf un neu ddwy o dudalennau o’i llyfr darllen (Cymraeg a Saesneg) bob nos. Ni allwn bwysleisio ddigon y pwysigrwydd o ddarllen gyda’ch plentyn bob nos! Hefyd, mae’n bwysig iawn i ymarfer tablau gyda’ch plentyn yn gyson. Erbyn nawr, dyle fod eich plentyn yn hyderus gyda phob tabl.

 

Addysg Gorfforol

Fe fydd gwersi Addysg Gorfforol yn digwydd bob dydd Iau. Y tymor yma, fe fydd y gwersi yn cymryd lle tu allan ac fe fyddwn yn neud athletau a gemau. Fe fydd angen gwisg addas ar gyfer y sesiynau. Fel arfer, rwyf yn gofyn i ddisgyblion i wisgo crys-t gwyn (plaen) a siorts du. Fe fydd angen treinars ar gyfer y tymor yma, ac efallai tracwisg os yw hi’n wyntog neu’n oer.

 

Ein Thema

Ein thema'r tymor yma yw ‘Iechyd Da!’. Yn ystod y tymor fe fyddwn yn gwneud gweithgareddau ym mhob pwnc sy’n clymu mewn i’n thema. Yn ein gwersi Gwyddoniaeth fe fyddwn yn astudio’r corff a beth sydd angen ar anifeiliaid a phlanhigion i oroesi a byw’n iach. Fe fyddwn yn edrych yn fanwl ar beth yw diet cytbwys ac yn astudio sut mae bwyd a diet wedi newid trwy’r canrifoedd. Fe fyddwn yn neud amrywiaeth o weithgareddau traws cwricwlaidd i glymu mewn gyda hyn. Os oes gennych unrhyw wybodaeth am neu arbenigedd yn iechyd neu ffitrwydd, fe fyddwn yn ddiolchgar os gallech chi eu rhannu gyda ni.

 

Diolch,

 

Mr Morgan

 

 

I would like to take this opportunity to explain some of the arrangements for this term and to outline the work we will be completing.

 

Our Class

There are 27 pupils in Drudwy class. We work hard and enjoy every day. We try and show respect to every person and every thing and we expect to be treated with that same respect ourselves. The adults in our class are Mr Morgan and Miss Thomas.

 

Homework

Homework will be distributed weekly on a Friday afternoon. Homework is to be returned to school by Tuesday morning, please.

Pupils are also expected to read at least one or two pages of a reading book (Welsh and English) every night. I cannot emphasise enough the importance of reading with your child on a daily basis. Also, by now, pupils should be confident with their times tables. Please keep practicing and testing them at home on a regular basis.

 

Physical Education

Physical Education lessons will take place on a Thursday each week. This term the sessions will be outside, where we will be doing athletics and games. Please ensure that pupils have a suitable kit for these sessions. As always, I encourage pupils to wear a plain white T-shirt and black shorts if possible. This term, pupils will also need trainers for the Physical Education lessons. Pupils may wish to bring a tracksuit on days when the weather isn’t great.

 

Our Theme

Our class theme this term is ‘Good Health’. We will be doing a variety of activities in every subject which tie in to this theme. In Science, we will be learning what animals and plants need to live healthily or survive. We will be learning what a healthy lifestyle looks like and how important a balanced diet is to us and our futures. We will be studying how diets have changed throughout time and creating our own healthy menus.

 If you have any books, information or expertise on anything linked to our theme, we would be very grateful if you could share this with our class to aid the collection of learning resources and further pupils’ learning.

 

Thank you,

 

              Mr Morgan

Top