Navigation
Home Page

Telor y Cnau

Tymor Y Gwanwyn

 

Croeso nol.

Gobeithio fod pawb yn barod am dymor da o waith unwaith eto. Ein thema y tymor yma fydd Yr Aur Du. Yn ein gwersi Iaith fe fyddwn yn astudio Stori Sioncyn y Gwair a'r morgrugyn ac yn dysgu sut i wella ein sgiliau ysgrifennu yn Gymraeg. Ag yn Saesneg byddwn yn dysgu am elfennau gwahanol iaith trwy astudio fables.

 

Fe fydd ein gwersi hanes yn ymwneud ag Oes Fictoria. Fe fyddwn yn dysgu am bobl enwog yr Oes ac am fywyd pobl cyffredin eu cartrefi, eu dillad a'u bwyd. Fe fyddwn yn ymweld a Big Pit a Sain Ffagan i hyrwyddo'r dysgu yma.

 

Yn Naearyddiaeth fe fyddwn yn canolbwyntio ar effaith llygredd ar yr amgylchfyd. Fe fyddwn yn edrych yn arbennig ar lygredd aer.

 

Yng Ngwyddoniaeth fe fyddwn yn dysgu ac yn ymchwilio i nodweddion a phwrpasau gwahanol defnyddiau, gan ddysgu pa rai sydd yn naturiol a pa rai sy'n wneuthuredig. Hefyd fe fydd prosiect bach Gwyddoniaeth/Dylunio a Thechnoleg yn arwain at greu Rhestr Chwarae cerddoriaeth addas ar gyfer gwahanol ardaloedd yr ysgol.

 

Yn Addysg Grefyddol fe fyddwn yn astudio Iddewiaeth a Christnogaeth yn enwedig Gwyl y Pesach sydd yn digwydd adeg y Pasg. Yng Nghelf fe fyddwn yn edrych ar waith William Morris ac yn cysidro rhai o artistiaid mawr Oes Victoria.

 

Y tymor yma fe fydd gwersi gymnasteg ynghyd a Gweithgareddau awyr agored wrth i'r tywydd cynhesu a gwella. Fe fydd ymarfer corff yn digwydd ar bnawn Dydd Mercher y tymor yma. Bydd disgwyl i blant cael eu dillad ymarfer corff yn yr ysgol bob Dydd Mercher.

 

Rydyn ni yn edrych ymlaen yn fawr iawn at astudio themau y tymor yma ac yn hyderus y bydd y plant yn parhau i wneud cynnydd da iawn ar draws y cwricwlwm.

Diolch am eich cefnogaeth cyson dros y tymor diwethaf. Edrychwn ymlaen at yr un lefel o gefnogaeth.

 

Mrs Davies a Mrs Tricker

 

Spring Term.

 

Welcome back.

I hope everyone is ready for a good season of work again. Our theme of this season will be Black Gold. In our Language lessons we will study the story of Sioncyn y Gwair a'r Morgrugyn and will learn how to improve our writing skills in Welsh. In English we will learning about different aspects of language through studying fables.

 

Our history lessons will be about The Victorian Age. We will learn about the famous people of the Age and about the life of the ordinary people, their homes, their clothes and their food. We will be visiting Big Pit the Welsh Folk Museum at St Fagans to promote this learning.

 

In Geography, we will study about the effects of pollution on people, animals and places.

 

As well as appreciating art by the famous William Morris we will consider some of the hreat artist of the Victorian period. In Science we will learn and explore the characteristics and purposes of different materials, learning which are natural and what are manufactured. A small Science / Design and Technology project will also lead to the creation of a suitable Music Play List for different school areas.

 

In Religious Education, we will study Judaism and Christianity, especially the Pesach Festival that corresponds with Easter.

 

This term there will  P.E. lessons on a Wednesday afternoon when there will be gymnastics lessons and Outdoor activities as weather conditions warm up and improve.

 

We are really looking forward to studying the themes of this season and confident that the children will continue to make very good progress across the curriculum. Thank you for your constant support over the past term. We look forward to the same level of support this coming term.

 

Mrs Davies and Mrs. Tricker

Ein dosbarth

Yn nosbarth Telor-y-Cnau mae yna 26 o ddisgyblion. Rydyn ni fel dosbarth yn gweithio’n galed ar amrywiaeth o dasgiau. Yr athrawon  yn ein dosbarth yw Mrs Davies, Mrs Tricker, Miss Williams a Mrs Joll. Mae Mrs Davies yn dysgu ar Ddydd Llun, Dydd Mawrth a Dydd Mercher a Mrs Tricker ar Ddydd Iau a Dydd Gwener.

 

Gwaith Cartref

Fe fydd gwaith cartref yn cael ei rhoi yn wythnosol ar brynhawn ddydd Gwener. Mae disgwyl i’r plant gwblhau'r dasg cartref a’i ddychwelyd yn ôl i’r ysgol erbyn bore Dydd Mawrth.

Hefyd, mae disgwyl i bob plentyn ddarllen o leiaf un neu ddwy o dudalennau o’i lyfrau darllen (Cymraeg a Saesneg) bob nos. Ni allwn bwysleisio ddigon y pwysigrwydd o ddarllen gyda’ch plentyn bob nos! Hefyd, mae’n bwysig iawn i ymarfer tablau gyda’ch plentyn yn gyson a byddwn yn profi'r plant yn wythnosol ar rhain.

 

Addysg Gorfforol

Fe fydd gwersi Addysg Gorfforol yn digwydd bob Dydd Gwener. Y tymor yma, fe fydd y gwersi yn cymryd lle tu fewn – yn y neuadd ac fe fyddwn yn neud ffitrwydd. Fe fydd angen gwisg addas ar gyfer y sesiynau. Fel arfer, rwyf yn gofyn i ddisgyblion i wisgo crys-t gwyn (plaen) a siorts du. Does dim angen treinars.

Diolch,

 

Mrs Davies a Mrs Tricker

 

 

I would like to take this opportunity to explain some of the arrangements for this term and to outline the work we will be completing.

 

Our Class

There are 26 pupils in Telor-y-Cnau . We expect the children to work conscientiously and to be respectful of others in all that they do. The teachers in our class are Mrs Davies/ Mrs Tricker,  Mrs Joll. Mrs Davies works on Mondays, Tuesdays and Wednesday and Mrs Tricker works on Thursday and Fridays.

 

Homework

Homework will be distributed weekly on a Friday afternoon. Homework is to be returned to school by Tuesday morning, please.

Pupils are also expected to read at least one or two pages of their reading books (Welsh and English) every night. We cannot emphasise enough the importance of reading with your child on a daily basis. Please keep practising tables at home and we will be testing them on a regular basis.

 

Physical Education

Physical Education lessons will take place on a Friday each week. This term the sessions will be inside, where we will be doing fitness. Please ensure that pupils have a suitable kit for these sessions. As always, we encourage pupils to wear a plain white T-shirt and black shorts if possible. There is no need for any footwear.

Thank you,

 

Mrs Davies and Mrs Tricker

Top