Navigation
Home Page

Titw Tomos Las

Croeso yn ôl a blwyddyn newydd dda i chi. Rydyn yn edrych ymlaen at fwynhau anturiaethau tymor y Gwanwyn.

Welcome back and a happy new year to you all. We are looking forward to the adventures that the spring term has in store for us.

 

Mi fyddwn ni yn parhau gydag ein diwrnodau prysur. Gan ddechrau gyda gweithgareddau darllen ac ymarfer llawysgrifen. Y tymor yma mi fydd rhai plant yn barod i ddefnyddio pen i wneud eu gwaith. Mae'n rhaid dysgu ysgrifennu gyda llawysgrifen daclus glwm heb wneud llawer o gamgymeriadau cyn ennill trwydded pen. Ar ôl hynny mi fydd sesiynau iaith yn dechrau. Rydyn yn edrych ymlaen at ddysgu am stori Gymraeg Roald Dahl Mr Cadno Campus (Fantastic Mr Fox) a mwynhau dilyniant o wersi Saesneg ar ‘Fairytales’. Ar ôl hynny rydyn yn rhannu i mewn i grwpiau mathemateg, rhai yn dysgu gyda fi (Miss Clement), Mrs Davies/Tricker neu Mr Morgan. Cyn cinio mi fyddwn yn rhannu i mewn i grwpiau Read Write Inc.

We will continue with our very busy daily routines. Beginning our day with reading activities and handwriting practice. This term some children will be ready to use a pen to do their work, handwriting needs to be neatly joined with minimal mistakes before earning a pen licence. After that language sessions will begin. During our Welsh sessions will be learning The welsh version of Famtastic Mr Fox (Mr Cadno Campus) and we will enjoy a series of lessons on Fairy tales in our English sessions. After language, children will separate into Maths groups with either me (Miss Clement), Mrs Davies/Tricker or Mr Morgan. We will then meet with our Read Write Inc. groups before lunch.

 

Yn y prynhawn rydyn yn ffocysu ar waith thema. Thema Cyfnod Allweddol 2 yn ystod Tymor y Gwanwyn yw ‘Aur Du’. Mi fyddwn yn dysgu am gelf a cherddoriaeth Gymreig a chwilio am leoliadau ar fap. Rydyn am ddysgu am byllau glo. Yn ein gwersi Hanes edrychwn ymlaen at ddysgu am yr oes Fictoria. Mae gwersi Addysg Gorfforol yn digwydd ar brynhawn Ddydd Mercher. Rydyn ni’n mynd i fwynhau gwersi dawns y werin a gymnasteg y tymor yma. Mae’n bwysig fod pawb yn cofio dod â dillad ymarfer corff sef siorts du a chrys gwyn.

During the afternoon we focus on our thematic work. Our theme in the spring term is 'Black Glold’'. We will be learning about Welsh art and Music and locations on a map. We will also  be looking at coal

Mines.  In our History lessons we look forward to learning about the Victorian era. Physical education lessons take place on a Wednesday afternoon. We will be doing Folk dance and Gymnastics this term. It is important that everyone brings a pair of black shorts and a white t-shirt in every week.

 

Mae disgwyl i’r plant parhau i ymarfer darllen pob nos er mwyn gwella sgiliau a symud ymlaen yn y gyfres darllen. Unwaith bod y plant yn barod, byddant yn gorffen y gyfres darllen ac mi fydd llawer o lyfrau stori ddiddorol a hwyliog ar gael i ddewis a mynd adref. Yn y ffeil cartref bydd cyfleoedd i blant ymarfer sillafu a thablau lluosi yn y tŷ yn ystod yr wythnos. Mae disgwyl i’r plant cyflawni tasgau gwaith cartref dros y penwythnos i safon uchel os gwelwch yn dda. Rydw i’n casglu gwaith cartref ar Ddydd Mawrth.

Children are expected to continue practicing their reading every night in order to better their skills and move on in the reading scheme. Once the children are ready they will finish the reading scheme and will be able to choose some interesting and exciting books from the class to take home and read. In the home file there will be opportunities for the children to practice spelling and multiplication tables at home during the week. The children are expected to complete homework tasks over the weekend to a high standard please. I will be collecting homework on Tuesdays.

 

Diolch am eich cefnogaeth. Welwn ni chi cyn hir!

Thank you for your continued support. See you all soon.

 

Croeso i Ddosbarth Titw Tomos Las.

Mae 24 o blant yn ein dosbarth.

 

Welcome to our class, Titw Tomos Las.

There are 24 of us altogether!

 

Yn ystod y diwrnod mi fydd plant yn brysur iawn! Yn y bore rydyn yn gwneud gwaith iaith. Y tymor yma mi fyddwn ni’n dysgu am stori Gelert ac yn mwynhau storiau Julia donaldson. Ar ôl hynny rydyn yn rhannu i mewn i grwpiau mathemateg, rhai yn dysgu gyda fi (Miss Clement), Mrs Davies/Tricker neu Mr Morgan. Cyn cinio mi fyddwn yn rhannu i mewn i grwpiau Read Write Inc.

During the days we will be very busy! First thing in the morning we will be doing language work. In Welsh we will learn about ‘Stori Gelert’, and we will enjoy Julia Ddonaldson stories’ in English lessons. After language, children will separate into Maths groups with either me (Miss Clement), Mrs Davies/Tricker or Mr Morgan. We will then meet with our Read Write Inc. groups before lunch.

 

Yn y prynhawn rydyn yn ffocysu ar waith thema. Thema Cyfnod Allweddol 2 yn ystod Tymor yr Hydref yw ‘Teithio trwy’r Ganrif’. Mi fyddwn ni yn Nosbarth Titw Tomos Las yn teithio yn ôl mewn amser i gyfnod y 90au. Byddwn yn dysgu sut i greu llinell amser a nifer o agweddau eraill yn amrywio o ddillad a thegannau i gerddoriaeth a dawnsio. Byddwn yn creu graffiti yn ein gwersi Celf a dysgu am Masnach deg wrth astudio Daearyddiaeth. Yn ein gwersi Gwyddoniaeth byddwn yn ymchwilio i Grymoedd.

During the afternoon we focus on our thematic work. Our theme in the Autumn term is ‘Travelling through the century’. We will be travelling back to the 90s. We will be learning to create timelines and studying numerous aspects varying from fashion to toys, music and dancing. We will be creating graffiti in our art lessons and learn about Fairtrade in Geography. In our Science lessons we will be researching Forces.

 

Mae gwersi Addysg Gorfforol yn digwydd ar brynhawn Ddydd Mercher. Rydyn ni’n mynd i fwynhau gwersi dawns y tymor yma. Mae’n bwysig fod pawb yn cofio dod â dillad ymarfer corff sef siorts du a chrys-t gwyn.

Physical education lessons take place on a Wednesday afternoon. We will be studying dance this term. It is important that everyone brings a pair of black shorts and a white t-shirt in every week.

 

Mae disgwyl i’r plant parhau i ymarfer darllen pob nos er mwyn gwella sgiliau a symud ymlaen yn y gyfres darllen. Unwaith bod y plant yn barod, byddant yn gorffen y cyfres darllen ac mi fydd llawer o lyfrau stori diddorol a hwyl ar gael i ddewis a mynd adref. Yn y ffeil cyswllt cartref bydd cyfleoedd i blant ymarfer llawysgrifen, sillafu a tablau lluosi yn ystod yr wythnos. Mae disgwyl i’r plant cyflawni tasgau gwaith cartref dros y penwythnos i safon uchel os gwelwch yn dda. Rydw in casglu gwaith cartref ar Ddydd Mawrth.

Children are expected to continue practising their reading every night in order to better their skills and move on in the reading scheme.  Once the children are ready they will finish the reading scheme and will be able to choose some interesting and exciting books from the class to take home and read. In the homework file there will be opportunities for the children to practice handwriting skills, spelling and multiplication tables at home during the week. The children are expected to complete homework tasks over the weekend in their homework books to a high standard please. I will be collecting homework on Tuesdays.

 

Edrychwn ymlaen at fwynhau anturiaethau Tymor yr Hydref!

We look forward to enjoying the autumn term adventures!

Miss Clement

Top