Navigation
Home Page

Gwdi-Hw

Byddwn yn ddiolchgar iawn pe baech chi'n gallu anfon pridd a phlanhigion neu gyfraniad ariannol i'r ysgol er mwyn i ni allu plannu yn ein hardal tu allan. We would be very grateful if you could bring soil and plants or a contribution to school to allow us to plant in our outdoor area. Diolch yn fawr.

Ymweliad gan y Gwasanaeth Tân ac Achub! A visit by the Fire and Rescue Service!

Ein taith i Gastell Caerdydd! Our trip to Cardiff Castle!

Croeso i ddosbarth Gwdihŵ!

Welcome to dosbarth Gwdihŵ! 

 

Thema'r dosbarth y tymor yma yw Teithio! Byddwn yn dysgu am drychfilod, bwyta'n iach, teithio a mwy! 

Our class theme this term is Travel! We will be learning about bugs, healthy eating, travelling and more! 

 

Mae yna 29 o blant yn ein dosbarth. Mrs Thomas yw ein hathrawes ddosbarth ac mae Mrs Brown Williams yn ein helpu ni yn y dosbarth.

There are 29 pupils in our class. Mrs Thomas is our class teacher and Mrs Brown Williams helps us in the class.

 

Ein diwrnod Addysg Gorfforol yw Dydd Llun. Mae angen cit ymarfer corff ac esgidiau rhedeg wedi’u labelu'n glir gydag enw eich plentyn.

Our PE day is Monday. Your child needs a PE kit and trainers which are clearly labelled with your child’s name.

 

Rydym yn anelu at gerdded milltir pob dydd yn yr ysgol, felly sicrhewch fod eich plentyn yn gwisgo esgidiau addas os gwelwch yn dda. 

We aim to walk a mile each day in school, therefore please ensure your child has suitable footwear. 

 

Fe fydd tasgau cyswllt cartref yn cael ei osod ar Ddydd Gwener. Dychwelwch â’r tasgau cyswllt cartref ar Ddydd Llun os gwelwch yn dda.

Home tasks will be set on a Friday. Please return the home tasks to school on the following Monday.

 

Darllenwch gyda'ch plentyn pob nos a chofnodwch yn y cofnod darllen os gwelwch yn dda.

Please read with your child every night and record in the reading record. 

 

Os ydy Gwilym Gwdihŵ yn dod i ymweld â chi dros y penwythnos a wnewch chi dynnu llun, llunio neu ysgrifennu am eich amser gyda fe a’u hanfon i'r ysgol os gwelwch yn dda. Dychwelwch â Gwilym i’r ysgol ar Ddydd Llun os gwelwch yn dda. 

If Gwilym Gwdihŵ comes to visit on the weekend please could you take a photo, draw or write about your time with him and send it to school. Please return Gwilym to school on Monday. 

 

 

Mae ffrwyth ar gael yn ddyddiol am 30c.

Fruit is available for 30p a day.

 

Diolch yn fawr! 

Mrs Thomas, Mrs Brown Williams

Hen fenyw fach Cydweli!

 

Helo Rhieni,

Sbarc a Seren ydyn ni! Byddwn ni’n gymeriadau pwysig iawn ym mywyd eich plant yn ystod y misoedd nesaf. Ni yw cymeriadau swyddogol y Siarter Iaith.

Beth yw’r Siarter Iaith?

Nod y Siarter Iaith yw annog plant i siarad Cymraeg yn amlach mewn sefyllfaoedd cymdeithasol. Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am arwain y Siarter, ac yn eu geiriau nhw, ‘Mewn gair, ysbrydoli ein plant a’n pobl ifanc i ddefnyddio’u Cymraeg ym mhob agwedd o’u bywydau’ yw’r nod. Dros y tair blynedd nesaf, bydd pob plentyn ym mhob ysgol Gymraeg yn cael cyfle i ennill gwobr efydd, arian ac aur. Mae hyn yn dibynnu ar faint o Gymraeg maen nhw’n ei siarad o ddydd i ddydd - mewn sefyllfaoedd amrywiol yn yr ysgol a’r gymuned. Mae’r Siarter Iaith yn gyfle i bawb yng nghymuned yr ysgol chwarae eu rhan wrth hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg - cyngor yr ysgol, y disgyblion, y gweithlu, rhieni, llywodraethwyr a’r gymuned ehangach er mwyn sicrhau perchnogaeth lawn o’r iaith.

 

Beth yw manteision y Siarter Iaith?

Rydych chi eisoes wedi dewis addysg Gymraeg i’ch plentyn ac yn deall manteision medru siarad dwy iaith. Mae cywirdeb iaith yn holl bwysig yn nhermau cyrhaeddiad addysgol plant. Y ffordd orau o sicrhau hyn wrth eich bod chi, fel cymuned yr ysgol, yn annog eich plentyn i ddefnyddio’r Gymraeg ar bob cyfle posibl.

Rydym ni yn gyffrous iawn i weithio gyda phob rhiant i gynyddu faint o Gymraeg sy’n cael ei siarad ym mhob ysgol. Edrychwch mas am ddigwyddiadau cyffrous yn fuan iawn!

 

Hello Parents,

We are Sbarc and Seren. You are sure to see a lot of us around the school over the coming months. We are the official characters for the Welsh Language Charter.

What is the Welsh Language Charter?

The main aim of the charter is to create an increase in the children’s social use of Welsh. We want to inspire our children and young people to use Welsh in every aspect of their lives. Over the next three years the school will have the opportunity to win a bronze, silver and gold award. The Welsh Language Charter asks for a contribution from every member of the school community – the pupils, the school council, the staff, the parents, the governors and the community.

 

What are the advantages of the Charter?

Raising the standard of the children’s spoken Welsh will have a positive effect on their educational attainment. Research shows that bilingual children achieve better results.

Top