Croeso i dymor yr Haf!
Thema'r dosbarth yr hanner tymor yma yw Ydyn ni yna eto?' Byddwn yn canolbwyntio ar thema teithio gan deithio o amgylch y byd. Blasus! yw thema'r ail hanner tymor a byddwn yn edrych ar wahanol fathau o fwydydd a mwynhau coginio a blasu.
Os oes gennych unrhyw wrthrychau, adnoddau neu gysylltiadau sydd yn ymwneud â'r thema byddwn yn ddiolchgar iawn am eich cefnogaeth.
Cofiwch Dydd Mawrth yw ein diwrnod ymarfer corff ac mae angen gwisg addas.
Diolch!
Welcome to the Summer term!
Our theme this half term is ' Are we nearly there yet?' We will be looking at different forms of transport and flying around the world on our magic carpet. During the second half term our topic is Scrumptious! We will be investigating a range of food and enjoy cooking and tasting a variety of recipes.
If you have resources, materials, unwanted items or contacts that can support this topic we would be grateful of your support! Diolch
Please remember that appropriate clothing is needed every Tuesday for PE. Diolch
Blwyddyn Newydd Dda i chi!
Happy New Year!
Croeso i dymor y Gwanwyn!
Thema'r dosbarth y tymor yma yw Chwedlau'r Ddraig.' Byddwn yn canolbwyntio ar chwedlau, cestyll a hanes Cymru yn ystod yr hanner tymor gyntaf gan ddilyn gyda thema 'Awn am dro i'r coed' a byd hud a lledrith yn ystod yr hanner tymor olaf.
Rydyn ni'n casglu amrywiaeth o ddeunyddiau jync sef bocsys wyau, hen ddisgiau CD, potiau iogwrt, hen focsys er mwyn ail ddefnyddio. Yn ein hardal tu allan rydyn ni'n datblygu ardal castell.Os oes gennych unrhyw wrthrychau, adnoddau neu gysylltiadau sydd yn ymwneud â'r thema byddwn yn ddiolchgar iawn am eich cefnogaeth. Diolch!
Our theme this term is ' Castles and Dragons !' We will be learning about traditional tales, Wales and castles during the first half term followed by 'If you go down to the woods today' during the second half term.
We are collecting junk materials such as empty egg boxes, cardboard boxes, yogurt pots and old cd's to re use and create models. Our outdoor area is developing into a castle role play area. If you have resources, materials, unwanted items or contacts that can support this topic we would be grateful of your support! Diolch
Cofiwch ein diwrnod Addysg Gorfforol yw Dydd Mawrth. Mae angen dillad addas a phriodol ar gyfer y gwersi sef crys t a siorts wedi eu labelu'n glir gydag enw'r plentyn.
Please remember that our Physical Education day is Tuesday! Your child will need to bring appropriate clothing in a bag clearly labelled with their name for the session.
It would also help if you could encourage your child to undress and dress themselves at home to support the ease of changing during PE.
Helo Rhieni,
Sbarc a Seren ydyn ni! Byddwn ni’n gymeriadau pwysig iawn ym mywyd eich plant yn ystod y misoedd nesaf. Ni yw cymeriadau swyddogol y Siarter Iaith.
Beth yw’r Siarter Iaith?
Nod y Siarter Iaith yw annog plant i siarad Cymraeg yn amlach mewn sefyllfaoedd cymdeithasol. Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am arwain y Siarter, ac yn eu geiriau nhw, ‘Mewn gair, ysbrydoli ein plant a’n pobl ifanc i ddefnyddio’u Cymraeg ym mhob agwedd o’u bywydau’ yw’r nod. Dros y tair blynedd nesaf, bydd pob plentyn ym mhob ysgol Gymraeg yn cael cyfle i ennill gwobr efydd, arian ac aur. Mae hyn yn dibynnu ar faint o Gymraeg maen nhw’n ei siarad o ddydd i ddydd - mewn sefyllfaoedd amrywiol yn yr ysgol a’r gymuned. Mae’r Siarter Iaith yn gyfle i bawb yng nghymuned yr ysgol chwarae eu rhan wrth hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg - cyngor yr ysgol, y disgyblion, y gweithlu, rhieni, llywodraethwyr a’r gymuned ehangach er mwyn sicrhau perchnogaeth lawn o’r iaith.
Beth yw manteision y Siarter Iaith?
Rydych chi eisoes wedi dewis addysg Gymraeg i’ch plentyn ac yn deall manteision medru siarad dwy iaith. Mae cywirdeb iaith yn holl bwysig yn nhermau cyrhaeddiad addysgol plant. Y ffordd orau o sicrhau hyn wrth eich bod chi, fel cymuned yr ysgol, yn annog eich plentyn i ddefnyddio’r Gymraeg ar bob cyfle posibl.
Rydym ni yn gyffrous iawn i weithio gyda phob rhiant i gynyddu faint o Gymraeg sy’n cael ei siarad ym mhob ysgol. Edrychwch mas am ddigwyddiadau cyffrous yn fuan iawn!
Hello Parents,
We are Sbarc and Seren. You are sure to see a lot of us around the school over the coming months. We are the official characters for the Welsh Language Charter.
What is the Welsh Language Charter?
The main aim of the charter is to create an increase in the children’s social use of Welsh. We want to inspire our children and young people to use Welsh in every aspect of their lives. Over the next three years the school will have the opportunity to win a bronze, silver and gold award. The Welsh Language Charter asks for a contribution from every member of the school community – the pupils, the school council, the staff, the parents, the governors and the community.
What are the advantages of the Charter?
Raising the standard of the children’s spoken Welsh will have a positive effect on their educational attainment. Research shows that bilingual children achieve better results.