Trefniadau Chwefror 23ain
Mi fydd yr ysgol ar gau i bawb ar ddydd Llun , Chwefror 22ain.
Ar ddydd Mawrth , Chwefror 23ain mi fydd dosbarthiadau Mrs Phillips , Miss Jenkins , Miss Long , Miss Jones a Mrs Evans yn ail-agor.
Mi fydd trafnidiaeth ysgol yn ail ddechrau ar y 23ain - amseroedd arferol yn y boreau , ond nodwch yn ofalus fod y bysiau yn gadael yr ysgol am 3.15pm yn y prynhawn , felly mae’n rhaid i chi fod wrth yr arhosfan 15 munud yn gynt nag arfer.
Os rydych chi’n cludo eich plentyn i’r ysgol , bydd y gatiau ddim ar agor tan 9.00am gan fod sesiwn y bore bellach yn dechrau am 9.15am.Mi fydd y diwrnod ysgol yn gorffen am 3.00pm , ac rydych chi’n casglu eich plentyn o ddrws yr ystafell ddosbarth fel arfer.
Ni fydd y gegin ar agor yn ystod yr wythnos gyntaf , felly bydd angen brechdanau ar bob plentyn.Rydyn ni’n gobeithio bydd y gegin ar agor ar gyfer yr wythnos yn cychwyn Mawrth 1af.
Mae’n rhaid gwisgo gorchudd gwyneb wrth ddod i ollwng neu casglu eich plentyn bob dydd.
Dydy dosbarthiadau CA2 ddim yn medru dechrau nôl ar hyn o bryd , felly bydd y dysgu arlein drwy Google Classroom yn parhau o ddydd Mawrth , Chwefror 23ain ymlaen
Ni fydd gwaith wedi gosod dros wythnos hanner tymor ar-lein.
Mae trafodaethau dal yn parhau ynglyn âg agor ysgolion,a gall y rhain effeithio ar ein cynlluniau.Mi fyddai i yn cadw chi’n hysbys o unrhyw ddatblygiadau cyn gynted ag y bo modd.
Dymuniadau gorau,
Mr Williams