Navigation
Home Page

Mis Medi 2020

Dyddiad/Date:   9fed Gorffennaf 2020

 

 

Annwyl Riant / Gwarcheidwad

 

Rydyn ni'n gwybod bod yr ychydig fisoedd diwethaf wedi bod yn anodd i chi a'ch plant, gyda llawer yn bryderus am golli dysgu a methu â gweld eu ffrindiau.  Dyna pam rydym yn croesawu cynllun y Gweinidog Addysg a fydd yn galluogi'r Awdurdod Lleol i baratoi ar gyfer ailagor yr ysgolion a all wneud hynny'n ddiogel yn ystod wythnos gyntaf mis Medi, gyda'r holl ysgolion yn dychwelyd yr wythnos ganlynol.

 

Ar y cychwyn, rydym am rannu cymaint o wybodaeth ag y gallwn gyda chi i ddeall y trefniadau a fydd ar waith o fis Medi.

 

Bydd angen cynnal diwrnodau cynllunio a pharatoi ar ddechrau'r tymor i adolygu asesiad risg, prosesau a systemau i sicrhau y gall ysgolion unigol groesawu disgyblion yn ôl yn ddiogel.

 

Efallai y bydd angen blaenoriaethu rhai grwpiau penodol o ddysgwyr yn gyntaf fel Blynyddoedd Cynnar, Blynyddoedd 6, 7 ac 11.  Fodd bynnag, byddwch yn derbyn gwybodaeth fwy penodol gan eich ysgol a'r Awdurdod Lleol wrth iddi ddod ar gael. Bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth am brydau ysgol ynghyd ag unrhyw newidiadau i amseroedd cychwyn a gorffen.

 

O ystyried yr amgylchiadau anghyffredin presennol, rydym yn gwybod y gallai staff sy'n gweithio'n galed mewn ysgolion, dysgwyr a'u teuluoedd fod o dan bwysau emosiynol, ariannol a seicolegol ychwanegol.  Mae'r Awdurdod Lleol yn parhau i weithio'n agos gydag ysgolion a lleoliadau i ystyried y ffordd orau i gefnogi anghenion llesiant parhaus pob dysgwr ar yr adeg hon.

 

Unwaith y bydd yr holl blant a phobl ifanc yn ôl i mewn, a fydd yn 14eg Medi fan bellaf, bydd presenoldeb ysgol yn orfodol.  Gofynnir i rieni gysylltu â'u hysgol os nad yw disgybl yn gallu mynychu am unrhyw reswm dilys.

 

Bydd gan bob lleoliad ysgol heriau lleol i fynd i'r afael â hwy, gan gynnwys argaeledd staffio. Mae gwaith ar y gweill gyda chydweithwyr i gadarnhau trefniadau trafnidiaeth ysgol.  Bydd yr Awdurdod Lleol ac ysgolion yn gweithio'n agos i oresgyn a datrys materion o'r fath.  Cadwch lygad ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol yr Awdurdod Lleol a fydd yn cael eu diweddaru gyda gwybodaeth bellach cyn gynted ag y bydd ar gael.

 

Rydym yn cydnabod bod ailagor ysgolion yn yr hinsawdd sydd ohoni yn heriol.  Mae awdurdodau lleol ac ysgolion wedi ymrwymo i weithio gyda'i gilydd i sicrhau y gall dysgwyr barhau i ddysgu'n ddiogel. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi sicrhau bod £ 29m ar gael i gefnogi ysgolion i wella.

Yn olaf, hoffem ddiolch i chi.  Mae'r ychydig fisoedd diwethaf hyn wedi rhoi straen ychwanegol ar bawb, ond yn enwedig i rieni a gofalwyr sydd wedi gorfod addasu'n gyflym i addysgu eu plant gartref ar adeg sydd eisoes yn heriol iawn.  Byddwn yn parhau i gadw mewn cysylltiad.

 

Yr eiddoch yn gywir

 

SUE WALKER

PRIF SWYDDOG (DYSGU)

Top