Navigation
Home Page

Llythyr gan MTCBC / MTCBC Letter

Dyddiad/Date:  04 Rhagfyr 2020

 

Annwyl Rieni/Gofalwyr,

 

Yr oeddwn am roi gwybod ichi y bydd ysgolion ar draws Merthyr Tudful yn cau ar gyfer y gwyliau ar 18 Rhagfyr 2020.

 

Hoffwn ddiolch yn fawr eto am bopeth yr ydych wedi'i wneud i gefnogi ein hysgolion ers mis Medi. Mae'r sefyllfa coronafeirws barhaus yn dal i fod gyda ni felly a allaf ofyn i chi i gyd barhau i'n cefnogi i gadw ysgolion ar agor drwy wneud y canlynol:-

 

• Cadw eich plentyn oddi ar yr ysgol os oes unrhyw un yn y cartref neu'r grŵp cyswllt uniongyrchol yn arddangos symptomau gan gynnwys os yw'n aros am ganlyniad prawf

 

• Hysbysu'r ysgol ar unwaith OS yw eich plentyn yn derbyn prawf Covid-19 cadarnhaol (AR GYFER Y CYFNOD GWYLIAU YN UNIG - OS BYDD EICH PLENTYN YN DATBLYGU SYMPTOMAU AR ÔL 21 RHAGFYR NID OES ANGEN HYSBYSU'R YSGOL GAN NA FYDD UNRHYW OBLYGIADAU I SWIGOD DOSBARTH)

 

o Os yw eich plentyn wedi cael Prawf Llif Ochrol cadarnhaol (y prawf 30 munud) rhaid i'r cartref agos ynysu tan ganlyniad y prawf nesaf (y prawf PCR) – os yw'r prawf PCR yn gadarnhaol bydd angen dilyn y disgwyliadau ynysu cenedlaethol.

 

• Os yw'n ofynnol i'ch plentyn ynysu, gwnewch yn siŵr nad yw'n gadael y tŷ ar ei gyfer yn ystod y cyfnod ynysu. Ni ddylent fod yn cymysgu â phlant neu bobl ifanc eraill, yn mynd i gartrefi eraill, nac yn casglu brodyr a chwiorydd eraill o'r ysgol.

 

o Peidio â ymgynnull â rhieni eraill y tu allan i gatiau'r ysgol wrth ollwng neu godi eich plant a gwisgo gorchudd wyneb pan fyddwch yn safle'r ysgol ac o'i amgylch.  Cadw pellter o 2m oddi wrth eraill bob amser.

 

• Bod yn ystyriol o eraill os ydych yn gollwng neu'n codi eich plentyn mewn car – codwyd nifer o bryderon i ni ac i'r heddlu ynghylch tagfeydd diangen oherwydd parcio y tu allan i gatiau'r ysgol.

 

Cadwch yn ddiogel a byddwch yn ofalus.

Yn gywir

 

SUE WALKER

CHIEF OFFICER (LEARNING)

Top