Navigation
Home Page

Llythyr gan MTCBC - Clybiau Brecwast

Dydd Gwener 26 Mawrth 2021

Annwyl Riant / Gofalwr,

 

Mae heddiw yn nodi diwedd cyfnod Mynegi Ddiddordeb ar gyfer darpariaeth y Clwb Brecwast.

 

Diolch, os ydych chi eisoes wedi mynegi diddordeb yn y gwasanaeth hwn.

 

Os ydych yn parhau am fynegi diddordeb, gallwch wneud hynny heddiw drwy’r ddolen hon https://www.merthyr.gov.uk/breakfastclub?lang=cy-GB&

 

Nodwch efallai na fydd yn bosibl ailagor darpariaeth y Clwb Brecwast yn ddiogel o fewn amgylchedd cyffredinol ddiogel rhag COVID yn ysgol eich plentyn. Os felly, yna ni fydd y clwb brecwast yn gallu ailagor.

 

Ar ôl i’r mynegiant o ddiddordeb gael ei adolygu, ac os fydd hi’n bosibl darparu’r gwasanaeth mewn amgylchedd sy’n ddiogel rhag COVID, byddwn yn cysylltu â chi ymhellach cyn diwedd Ebrill gyda diweddariad am y sefyllfa.

 

Hyd nes hynny, ni fydd gwasanaeth y Clwb Brecwast yn cael ei ddarparu.

 

Os fydd y clwb brecwast yn gallu ailagor yn ysgol eich plentyn, yna nid yw cwblhau’r ffurflen mynegi diddordeb yn rhoi’r hawl awtomatig am le yn y clwb brecwast gan fod llefydd yn gyfyngedig yn sgil cyfyngiadau diogelu rhag COVID.

 

Diolch am eich cefnogaeth, dealltwriaeth a chydweithrediad.

 

Gan ddymuno egwyl hapus a diogel i chi dros y Pasg.

Fairyal Pabani

Rheolwr Arlwyo Mewn Ysgolion

Top