Navigation
Home Page

Llythyr gan MTCBC - Clybiau Brecwast

Y Diweddaraf am y Clybiau Brecwast                                      Tymor yr Haf 2021

Annwyl Riant/Warcheidwad,

Fel y byddwch yn ymwybodol ohono, er mwyn ein helpu ni i ystyried dichonolrwydd ailagor darpariaeth Clwb Brecwast mewn ysgolion cynradd yn ddiogel yn ystod y pandemig, ymgymerom ag ymarfer mynegi diddordeb cyn y Pasg.

Diolch i bawb wnaeth gwblhau hwn. Rydym wedi adolygu’r holl atebion bellach ac ystyried cynlluniau’r gwasanaeth yn unol â chanllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru i ysgolion er mwyn asesu a ellir darparu’r ddarpariaeth clwb brecwast yn ddiogel gan dalu sylw at y ffactorau canlynol:-

  • cadw at ofynion pellter cymdeithasol rhwng grwpiau cyswllt o ddisgyblion
  • argaeledd / addasrwydd staff digonol i oruchwylio disgyblion wrth ddarparu’r clwb brecwast
  • sicrhau fod iechyd a diogelwch disgyblion a staff yn cael eu rheoli’n briodol oddi fewn i amgylchedd cyffredinol COVID-19 ddiogel yr ysgol

O ganlyniad i’r asesiad hwn mae’r awdurdod lleol wedi dynodi rhwystrau sy’n atal ailagor clybiau brecwast yn ddiogel ar hyn o bryd:-

  1. dim digon o staff i gynnal grwpiau cyswllt cyson yn ôl y canllawiau a darparu’r lefel ofynnol o oruchwyliaeth yn ystod y clwb brecwast
  2. aflonyddu a risg ychwanegol i ysgolion o ran gweithrediadau diogel cyfredol COVID-19 sydd wedi eu mewnblannu ac sy’n gweithio’n dda
  3. risgiau ychwanegol o ran aflonyddu dosbarthiadau ar draws yr ysgol i gyd petai achos positif o COVID-19 yn ymddangos

Gan na allwn ailagor clybiau brecwast yn ddiogel ledled y Fwrdeistref Sirol mae’r awdurdod lleol yn ystyried y byddai’n afresymol ailagor y clybiau brecwast ar yr adeg hon ac felly mae wedi penderfynu y bydd darpariaeth y clwb brecwast yn aros ar gau tan fis Medi ar y cynharaf.

Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gallai hyn ei achosi, a gallwn eich sicrhau y byddwn yn parhau i fonitro canllawiau diweddaraf COVID-19 wrth i bellter cymdeithasol a gofynion eraill lacio fel bod Clybiau Brecwast yn ailagor yn ddiogel ledled y Fwrdeistref Sirol yn ystod Tymor yr Hydref.

Byddwn yn darparu diweddariad pellach i rieni yn ystod ail hanner Tymor yr Haf ynghylch opsiynau ailagor ym mis Medi.

Diolch am eich cefnogaeth barhaus a’ch cydweithrediad.

 

Fairyal Pabani

School Catering Manager

Top