|
|
Annwyl Riant/Gofalwr
CORONAFEIRWS (COVID-19)
Diogelwch y plant yn ein hysgolion yw prif flaenoriaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ar Ogwr a byddwn yn parhau i weithredu er eu budd nhw.
Er bod y sefyllfa o ran coronafeirws yn datblygu’n gyflym, rydym am eich sicrhau bod yr awdurdod lleol yn gweithio’n agos gydag ysgolion, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru i roi unrhyw fesurau angenrheidiol ar waith i ddiogelu disgyblion, staff ac ymwelwyr wrth i’r feirws ledaenu.
Y cyngor cenedlaethol, fel ar heddiw (13 Mawrth 2020) yw i bethau barhau fel y maent, ond roeddwn i am eich sicrhau chi bod yr awdurdod lleol yn monitro’r datblygiadau’n ofalus, yn lleol ac yn genedlaethol. Yn y cyswllt hwn, mae’r awdurdod lleol wrthi’n datblygu strategaeth i sicrhau bod cynlluniau ac adnoddau effeithiol ar gael i ymateb yn briodol wrth i’r sefyllfa newid.
Er gwybodaeth, mae llawer o gyngor ar gael i’r cyhoedd ar wefannau Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU mewn perthynas â coronafeirws.
At hyn, mae cyngor mwy penodol i rieni a gofalwyr i’w gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a byddwn yn eich annog i edrych ar y wefan yn rheolaidd. Mae rhagor o gyngor cyffredinol ynghylch teithio i’r DU neu o’r DU i’w weld ar wefan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad (FCO).
Yn y cyfamser, mae’ch cymorth fel rhieni/gofalwyr yn hanfodol i’n strategaeth ar gyfer atal coronofeirws rhag ymledu. Rhaid i mi bwysleisio eto mai’r ffordd orau o beidio â chael eich heintio yw drwy ofalu’ch bod yn cadw’ch dwylo’n lân.
Felly, dywedwch wrth eich plant am olchi’u dwylo:
Dywedwch wrth eich plant hefyd am:
Os ydych chi’n poeni y gallai eich plentyn fod yn dangos symptomau coronafeirws, ffoniwch Galw Iechyd Cymru 0845 46 47 neu 111. Os fydd eich plentyn yn datblygu peswch neu fod ganddo wres uchel dylech ei gadw adref o’r ysgol am 7 diwrnod i hunan ynysu a pheidio â dychwelyd i’r ysgol nes bod y cyfnod hwn wedi dod i ben. Peidiwch â mynd at eich Meddyg Teulu nac unrhyw amgylchedd gofal iechyd arall.
Cofiwch fod yr awdurdod lleol yn cymryd pob cam posibl i ymateb i’r sefyllfa hon.
Yn gywir
SUE WALKER
PRIF SWYDDOG (DYSGU)