Fel y gwyddoch, mae’r staff yn gosod nifer o dasgiau a gweithgareddau i’r plant ar hyn o bryd.
Mae 2 y diwrnod i’r Cyfnod Sylfaen a 3 y diwrnod i blant Cyfnod Allweddol 2. Yn ogystal a’r rhain mae sesiynau wedi’u recordio a sesiynau byw yn wythnosol.
Y peth mwyaf diweddar ar Google Classroom yw’r cyfle i gyfnewid negeseuon llais rhwng y plant a’r staff er mwyn derbyn mwy o wybodaeth neu eglurhad am y tasgiau.
Y rheswm dros ysgrifennu’r neges yma yw i drio cael mwy o blant yn ymuno yn y sesiynau ac i gynnig cefnogaeth iddynt fel bod modd i fwy o blant elwa o’n darpariaeth ni fel ysgol.
Os oes problem neu anhawster gyda’ch teclynau neu offer TGCH - a wnewch chi gysylltu gyda’r ysgol er mwyn trefnu i fenthyg Chromebook neu iPad. Fe fydd rhaid llofnodi ffurflen yswiriant, ond mae’n bosib i ni drefnu benthyciad o fewn 24 awr.
Er ein bod ni mewn cyfnod anodd, mae’r staff yn dal i ymateb i broblemau a chwestiynau ar eu ebyst.
A wnewch chi sicrhau eich bod yn hysbysu ni o unrhyw drafferthion sydd yn rhwystro’ch plentyn rhag ymuno gyda’r gweithgareddau a’r tasgiau dyddiol fel ein bod ni’n gallu gweithio gyda chi i drio datrys eich problemau.
Diolch.