Navigation
Home Page

Gwybodaeth Pwysig Iawn

Mae'r ysgol yn darparu clwb brecwast iachus yn rhad ac am ddim i blant o flwyddyn 1 hyd at flwyddyn 6. Mae’r clwb brecwast yn dechrau 8:10am ac mae angen i bob plentyn cofrestri er mwyn sicrhau lle. Gofynnwn i chi beidio cyrraedd cyn 8.10am ac i ddod a’ch plentyn at y drws gan bod y maes parcio yn brysur iawn yn ystod y bore.

 

Hoffwn eich atgoffa bod y maes parcio ar agor nes 8.30am ac yna yn unig i’r staff ysgol. Does dim mynediad i’r rhieni ar ôl yr amser yma a gofynnwn i chi beidio â dilyn staff drwy’r gatiau i mewn i’r maes parcio.

 

Mae’r ysgol yn dechrau am 8.50am. Bydd aelodau staff yr ysgol yn agor y drysau ac yn cyfarch y plant o 8.50am ymlaen. Ni fydd staff ar ddyletswydd cyn yr amser yma felly peidiwch â danfon plant i mewn i’r ysgol gan na fydd aelodau staff yna i ofalu amdanynt.

 

O fis Medi ymlaen dim ond y plant sydd yn cyrraedd yr ysgol ar y bws sydd yn defnyddio’r mynedfa ochr y neuadd fach. Gofynnwn i bawb arall i ddefnyddio’r trefn arferol ar y iard fawr lle bydd aelod o’r staff yn eich cyfarch. 

 

Ni chaniateir ysmygu na’r defnydd o Vapes ar safle ysgol.

 

Ni chaniateir cwn i fod ar dir yr ysgol hyd yn oed os ydynt yn cael ei chario. 

 

Rhaid sicrhau eich bod yn cysylltu â’r ysgol yn ysgrifenedig os rydych am newid trefniadau arferol casglu plant ar ddiwedd y dydd. Os mae’r trefniadau casglu yn newid yn rheolaidd sicrhewch eich bod yn llenwi taflen newidiadau sydd ar gael o’r athro / athrawes ddosbarth.

 

Mae system textio’r ysgol yn ein galluogi i ddanfon neges i un rhif ffôn symudol yn unig felly sicrhewch eich bod yn rhoi gwybod i’r ysgol am unrhyw newidiadau. 

 

Byddwn yn eich hysbysu am unrhyw wybodaeth, newidiadau neu ddigwyddiadau gan ddefnyddio’r system textio gan gynnwys os ar unrhyw adeg bod bws yn hwyr yn gadael yr ysgol ar ddiwedd dydd.

 

Os oes gennych unrhyw broblemau neu gwestiynau am drafnidiaeth ysgol mae angen i chi gysylltu gyda’r sir gan nad yw’r ysgol yn delio gyda materion trafnidiaeth.

 

Sicrhewch eich bod pob dilledyn wedi ei labeli’n glir gydag enw eich plentyn!    

 

Gydag iechyd a diogelwch y disgyblion mewn golwg, nid ydym yn caniatáu gwisgo gemwaith i’r ysgol. Os ydy eich plentyn yn gwisgo clustlysau rhaid i’r rhain fod yn ‘stỳds’ yn unig.

 

Bydd angen i'r plant ddod a dillad ymarfer corff ar ddechrau pob hanner tymor ac mae’n bosib eu cadw yn yr ysgol a'u dychwelid adref ar ddiwedd pob hanner tymor i'w golchi.

 

Gofynnwch i beidio â danfon grawnwin gyda’ch plentyn i’r ysgol ar gyfer amser ffrwyth neu amser cinio oherwydd y peryg o dagu.

 

Rydyn yn defnyddio tudalen ‘ Facebook’ yr ysgol ar gyfer rhannu gwybodaeth yn unig. Dydyn ni ddim yn rhannu lluniau plant ar y dudalen nac yn cyfrannu at unrhyw drafodaethau. 

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltwch â’r ysgol yn uniongyrchol neu ebsotiwch gan ddefnyddio – info@rhyd-y-grug.cymru

 

Top