Mae’r ysgol yn ail-agor ar gyfer disgyblion ar Ddydd Llun , Ebrill 12fed.
Mae’r trefniadau ar gyfer Tymor yr Haf wedi newid ychydig bach:
Bore:
Mi fydd y trefniadau cyfredol yn aros yr un fath - gatiau cerdded yn agor am 9.00am.Does dim rhaid i chi fod yma am 9.00am - mi fydd y gatiau yn aros ar agor am 15 munud tan 9.15am.
Byddwn yn parhau i ddadlwytho’r bysiau i gyd yn ddiogel cyn agor y gatiau cerdded.
Prynhawn:
Mi fydd y trefniadau ymarferol yn aros yr un fath , ond bydd yr amseroedd yn newid fel y ganlyn:
Bydd y gatiau cerdded bellach ar agor am 3.00pm
Mi fydd y bysiau yn gadael yr ysgol am 3.30pm
Dyma restr o’r diwrnodau Hyfforddiant Mewn Swydd am weddill y flwyddyn academaidd:
Dydd Mawrth , Mai 4ydd
Dydd Gwener , Mai 28ain
Dydd Gwener , Gorffennaf 2ail.
Diwrnod olaf ar gyfer y disgyblion cyn hanner tymor Sulgwyn yw Dydd Iau , Mai 27ain
Mi fydd yr hanner tymor olaf yn cychwyn ar Ddydd Llun , Mehefin 7fed.
Diwrnod olaf y flwyddyn ysgol yw Dydd Gwener , Gorffennaf 16eg.