Dydd Llun , Medi 19eg – Cwrdd â’r athrawon!
Eleni, rydym yn cynnig cyfle i gyfarfod gyda’r athro / athrawes dosbarth am gyflwyniad byr ar y ffordd y bydd eich plentyn yn cael ei addysgu yn ystod y flwyddyn. Bydd hwn yn drosolwg cyffredinol o waith y dosbarth. (Cofiwch nad yw hwn yn gyfle i drafod disgyblion unigol - bydd y nosweithiau agored arferol yn cael ei gynnal ar Dachwedd 14eg a 15fed i chi dderbyn gwybodaeth am y cynnydd y mae eich plentyn yn gwneud yn yr ysgol)
Bydd cyfle i chi fynychu mwy nag un cyflwyniad ar gyfer brodyr a chwiorydd yn ystod yr amseroedd isod:
Cyflwyniad 1 – 4.00pm (20 munud)
Cyflwyniad 2 – 4.30pm (20 munud)