RYG PTA – AGM Meeting
Dear Parents/Guardians,
Ysgol Gynradd Rhyd-y-Grug’s PTA would like to invite any parents/guardians who wish to join the PTA to attend our AGM on Thursday 19th April at 4pm at the school.
The AGM will also consist of our Spring Term meeting focussing on the organisation of our Annual Summer Fete.
This meeting will provide an opportunity for any new members to join and any existing members to exit the committee if they so wish. The PTA welcomes new members who may have new and refreshing fundraising ideas. It can be a daunting experience for some, but rest assured, we are really a very friendly bunch!!
Furthermore, the three main roles of the Committee being the Chair, Treasurer and the Secretary will also be nominated and voted for by the Committee at this meeting.
At present the PTA consists of 16 members who meet at least once a term in the evening.
The PTA brings together parents, teachers and others from the school community who are
interested in supporting the school, providing an opportunity for everyone to work together, with a common purpose – to organise fundraising and social events.
Events organised previously include our Annual Summer and Christmas Fetes’ and Halloween/Autumn Disco’s. The PTA’s fundraising has contributed to the school being able to purchase Google Chromebooks and the outside picnic furniture.
We have an opportunity to expand our events but we need your support.
The PTA will also commence a volunteer list. This is for parents/guardians who cannot commit to being a fulltime member but would be willing to help the Committee when needed i.e. to supervise school discos, help sell raffle tickets, help with teas & coffees etc.
We look forward to seeing some new faces at the next meeting.
Thank you,
Michelle Pedro, Acting Chair of the PTA
-----------------------------------------------------------------------------------------------------------
I would like to be a volunteer/member of the committee.
I can/cannot attend the AGM and Spring Term Meeting on Thursday 19th April at 4pm
Name of Parent: …………………………………………………………………………………………………………..
Child’s Name & Year: …………………………………………………………………………………………………….
E-Mail Address: …………………………………………………………………..............................................
Please return to the school office.
CRhA RYG – CYFARFOD CYFFREDINOL BLYNYDDOL
Annwyl rieni/gwarcheidwaid,
Hoffai CRhA Ysgol Gynradd Rhyd-y-Grug wahodd unrhyw rieni/gwarcheidwaid y dymunent ymuno â’r CRhA i fynychu ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar ddydd Iau 19eg Ebrill am 4pm yn yr ysgol.
Bydd y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol hefyd yn cynnwys ein cyfarfod Tymor y Gwanwyn gan ganolbwyntio ar ein Ffair Haf flynyddol.
Bydd y cyfarfod hwn yn rhoi cyfle i unrhyw aelodau newydd ymuno â ni ac i unrhyw aelodau presennol adael y pwyllgor pe baent yn dymuno. Mae’r CRhA yn croesawu aelodau newydd efallai y mae ganddynt syniadau newydd a ffres ar gyfer codi arian. Gall fod yn brofiad brawychus i rai, ond rydym yn wirioneddol yn griw cyfeillgar iawn!!
Ar ben hynny, byddwn hefyd yn enwebu ac yn cynnal pleidlais ar gyfer tair prif rôl y Pwyllgor sef y Cadeirydd, y Trysorydd a’r Ysgrifennydd yn ystod y cyfarfod hwn.
Ar hyn o bryd mae’r CRhA yn cynnwys 16 o aelodau sy’n cyfarfod o leiaf un noswaith y tymor.
Mae’r CRhA yn tynnu rhieni, athrawon a phobl eraill o gymuned yr ysgol y mae ganddynt ddiddordeb mewn cefnogi’r ysgol ynghyd, gan roi cyfle i bawb gydweithio at ddiben cyffredin – trefnu digwyddiadau codi arian a chymdeithasol.
Ymhlith y digwyddiadau a drefnwyd yn y gorffennol mae ein Ffeiriau Haf a Nadolig blynyddol a Disgo Calan Gaeaf/yr Hydref. Mae ymdrechion codi arian y CRhA wedi cyfrannu at alluogi i’r ysgol brynu Google Chromebooks a’r celfi picnic awyr agored.
Mae gennym gyfle i ehangu ein digwyddiadau ond mae angen eich cefnogaeth arnom.
Bydd y CRhA hefyd yn llunio rhestr o wirfoddolwyr. Bydd y rhestr hon ar gyfer rhieni/gwarcheidwaid nad oes modd iddynt ymrwymo i fod yn aelod llawn amser ond byddant yn fodlon helpu’r Pwyllgor yn ôl yr angen h.y. goruchwylio mewn disgos yr ysgol, helpu i werthu tocynnau raffl, helpu ar y stondin te a choffi ayyb.
Edrychwn ymlaen at weld wynebau newydd yn y cyfarfod nesaf.
Diolch yn fawr,
Michelle Pedro, Cadeirydd dros dro CRhA
-----------------------------------------------------------------------------------------------------------
Hoffwn fod yn wirfoddolwr/aelod o’r pwyllgor.
Gallaf / Ni allaf fynychu’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a Chyfarfod Tymor y Gwanwyn ar ddydd Iau 19eg Ebrill am 4pm
Enw’r rhiant: …………………………………………………………………………………………………………..
Enw a blwyddyn ysgol y plentyn: …………………………………………………………………………………………………….
Cyfeiriad E-bost: …………………………………………………………………..............................................
Dylech ddychwelyd y bonyn hwn i swyddfa’r ysgol.