Navigation
Home Page

Coronavirus - Mawrth 16eg - llythyr o`r ysgol

Dydd Llun , Mawrth 16eg

 

Ysgrifennaf atoch yn eich hysbysu o’r camau rydym wedi ymgymryd er mwyn ymdrechu i leihau’r risg o ledaeniad y Coronavirus (COVID-19) ar safle’r ysgol.

Byddwn yn parhau i ddilyn a rhannu’r holl gyngor a gyhoeddwyd gan Iechyd y Cyhoedd, Llywodraeth Cymru a'r Awdurdod Lleol.

Nid yw'r ysgol wedi cael ei chynghori i gau ar hyn o bryd.

Er mwyn gwneud popeth a gallwn i ddiogelu holl ddisgyblion a staff yr Ysgol, gofynnwn am eich cydweithrediad llwyr wrth rhoi’r canlynol ar waith:

 atgoffa’ch plentyn yn barhaus i olchi dwylo’n dda er mwyn hyrwyddo arferion hylendid da

 Os oes rhaid ymweld â'r Ysgol, gofynnwn eich bod wedi golchi eich dwylo neu wedi defnyddio hylif glanweithio gwrth-facteria cyn cyrraedd

 gofynnwn i chi beidio â mynychu'r ysgol ar ol 9:00yb a chyn 3:25yp heblaw bo gwir angen

 gofynnwn i chi beidio â mynychu'r ysgol os ydych chi wedi teithio o un o'r rhanbarthau / ardaloedd cwarantîn yn ddiweddar

 gofynnwn i chi beidio a mynychu’r ysgol os ydych chi wedi bod mewn cysylltiad ag unigolyn symptomatig yn ystod y 14 diwrnod diwethaf neu oes oes gennych beswch o’r newydd, gwres neu’n fyr o anadl

 i gadw eich plentyn o’r Ysgol os oes ganddo beswch o’r newydd, gwres neu’n fyr o anadl

 atgoffa’ch plentyn i beidio rhannu diodydd, peniau ayyb gydag eraill

Yn amlwg, mae gennym stôc dda o sebon golchi dwylo ac mae'r plant yn derbyn negeseuon cyson ynglŷn â sut I olchi dwylo'n iawn.

Er y byddwn yn gwneud pob ymdrech bosib i sicrhau yr addysg orau posib i’ch plentyn ni fyddwn:

 yn trefnu ymweliadau nac yn gwahodd ymwelwyr i’r Ysgol o ddydd Llun 16eg o Fawrth ymlaen

 ni fyddwn yn cynnal gwasanaethau Ysgol gyfan

 

 

Mae cynlluniau ar waith i ddarparu gwaith i'ch plentyn pe bai angen i'r ysgol gau am unrhyw hyd. Bydd y rhan fwyaf o'r gwaith yn cael ei ychwanegu at wefan yr ysgol o`r Feithrin,Derbyn i  Fl 1 a 2 a Google Classroom i Fl 3 – 6.  naill ai ar wefan yr ygsol, drwy ebost neu Google Classroom.

Er bod hwn yn gyfnod anodd a chyfnewidiol i ni gyd, gobeithio bod yr ohebiaeth hon yn rhoi sicrwydd ichi fod yr ysgol yn ymateb yn briodol a bod diogelwch a iechyd eich plentyn a staff yr ysgol yn flaenoriaeth. Hyd nes y byddwn yn derbyn cyngor arall, byddwn yn parhau i weithredu diwrnod addysgu llawn (ag eithrio clybiau ar ȏl ysgol), gan groesawu'ch plentyn i'r ysgol bob dydd.

 

Yn olaf, am ddiweddariadau pellach gwiriwch eich cyfri Teachers2Parents yn ddyddiol, gwefan https://phw.nhs.wales/ a gwefan sir Merthyr am statws yr Ysgol.

Cadwch yn ddiogel!

Yn ddiffuant

Mr Williams.

 

www.rhyd-y-grug.cymru

Dilynwch yr ysgol ar Drydar am y newyddion diweddaraf - @rhydygrug

 

Top