Navigation
Home Page

Coronavirus - cyngor gan MTCBC

CORONAVIRUS - CYNGOR / CYFARWYDDYD IECHYD CYHOEDDUS

 

Mae'r cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Lloegr / Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi'i gopïo isod, ac yn cael ei ddiweddaru'n ddyddiol am 3pm trwy'r ddolen ar dudalen gartref eu gwefan, https://phw.nhs.wales/.

 

Os oes unrhyw ddatblygiadau yn y Fwrdeistref Sirol byddwn yn eich hysbysu trwy eich ysgol a hefyd dudalennau cyfryngau cymdeithasol y Cyngor ee Facebook a Twitter.

 

Cyngor i deithwyr os ydych chi wedi bod i'r ardaloedd canlynol ers 19 Chwefror:

 

Os ydych wedi dychwelyd o’r ardaloedd canlynol ers 19 Chwefror:

  • Iran
  • Ardaloedd penodol yng Ngogledd yr Eidal lle mae symudiadau wedi’u cyfyngu, yn unol â chyfarwyddyd Llywodraeth yr Eidal
  • Ardaloedd gofal arbennig yn Ne Korea yn unol â chyfarwyddyd Llywodraeth Gweriniaeth De Korea

Dylech wneud y canlynol ar unwaith:

  • aros gartref ac osgoi cysylltiad â phobl eraill, fel y byddech yn ei wneud gyda’r ffliw
  • ffonio Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47 neu ffonio 111 os yw ar gael yn eich ardal (Hywel Dda, Powys, Aneurin Bevan a Bae Abertawe).

Dilynwch y cyngor hwn hyd yn oed os nad yw symptomau’r feirws arnoch

Os byddwch yn datblygu twymyn neu beswch neu’n cael trafferth anadlu, ffoniwch Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47 neu ffonio 111. Daliwch i ddilyn yr un cyngor. Peidiwch â gadael eich cartref nes cael cyngor gan weithiwr clinigol.

 

Os ydych chi wedi bod yn Wuhan neu dalaith Hubei yn y 14 diwrnod diwethaf:

Os ydych chi wedi dychwelyd o Wuhan neu dalaith Hubei yn y 14 diwrnod diwethaf, dylech:

  • aros gartref ac osgoi cysylltiad â phobl eraill, fel y byddech yn ei wneud gyda’r ffliw
  • ffonio Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47 neu ffonio 111 os yw ar gael yn eich ardal (Hywel Dda, Powys, Aneurin Bevan a Bae Abertawe)

Dilynwch y cyngor hwn hyd yn oed os nad yw symptomau’r feirws arnoch

Os byddwch yn datblygu twymyn neu beswch neu’n cael trafferth anadlu, ffoniwch Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47 neu ffonio 111. Daliwch i ddilyn yr un cyngor a pheidiwch â gadael eich cartref nes cael cyngor gan weithiwr clinigol.

 

Os ydych wedi bod i’r ardaloedd canlynol ers 19 Chwefror:

Os ydych wedi dychwelyd o’r ardaloedd canlynol ers 19 Chwefror:

  • Gogledd yr Eidal (wedi’i ddiffinio gan linell uwchben Pisa, Fflorens a Rimini ond nad yw’n cynnwys y lleoedd hyn)
  • Fiet-nam
  • Cambodia
  • Laos
  • Myanmar

Ac yn datblygu’r symptomau (twymyn neu beswch neu’n cael trafferth anadlu), hyd yn oed os nad ydynt yn ddifrifol o gwbl, dylech:

  • aros gartref ac osgoi cysylltiad â phobl eraill, fel y byddech yn ei wneud gyda’r ffliw
  • ffonio Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47 neu ffonio 111 os yw ar gael yn eich ardal (Hywel Dda, Powys, Aneurin Bevan a Bae Abertawe)

Dim ond os oes gennych y symptomau y dylech ddilyn y cyngor hwn.

 

Os ydych wedi bod i’r ardaloedd canlynol yn y 14 diwrnod diwethaf:

Os ydych wedi dychwelyd o unrhyw un o’r ardaloedd hyn yn y 14 diwrnod diwethaf:

  • Tsieina
  • Gwlad Thai
  • Japan
  • Gweriniaeth Korea
  • Hong Kong
  • Taiwan
  • Singapôr
  • Malaysia
  • Macau

Ac yn datblygu’r symptomau (twymyn neu beswch neu’n cael trafferth anadlu), hyd yn oed os nad ydynt yn ddifrifol o gwbl, dylech wneud y canlynol ar unwaith:

  • aros gartref ac osgoi cysylltiad â phobl eraill, fel y byddech yn ei wneud gyda’r ffliw
  • ffonio Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47 neu ffonio 111 os yw ar gael yn eich ardal (Hywel Dda, Powys, Aneurin Bevan a Bae Abertawe)

Dim ond os oes gennych y symptomau y dylech ddilyn y cyngor hwn.

 

Mae'r wybodaeth ddiweddaraf a chyngor ar deithio ar gael o:

 

Yours sincerely

 

 

SUE WALKER

CHIEF OFFICER (LEARNING)

Top