Navigation
Home Page

Cynllun Ail-Agor Medi 2020

Rwy'n ysgrifennu gyda rhywfaint o wybodaeth am yr Ysgol wrth i ni ddywchwelyd, fel bod gennych syniad o'n cynlluniau. Fel y gwyddoch i gyd, cyhoeddodd Kirsty Williams ei bod hi eisiau pob plentyn yng Nghymru yn ôl yn yr ysgol yn llawn amser erbyn Medi'r 14eg.

Erbyn dydd Llun, Medi'r 14eg, bydd pob un o'r plant yn dychwelyd. Bydd cegin yr ysgol ar agor, ond byddwn yn cynnig bwydlen llai. Bydd yr opsiwn bwyd poeth yn dod mewn bocs, megis ‘grab ‘n go’, a’r dewis oer yn wrap y dydd.  Bydd y fwydlen i'w gweld ar parent pay, i'ch helpu i wneud eich dewisiadau. Bydd mwyafrif y dosbarthiadau yn bwyta eu dewis cinio yn eu hystafelloedd dosbarth, gyda'u swigen. Gofynnwn ir plant ddod â bocs bwyd yn unig wythnos y 7fed o Fedi.

Bydd pob dosbarth yn cael ei ystyried yn 'swigen' ei hun - o fewn y swigen hon ni fydd unrhyw bellter cymdeithasol disgwyliedig ymhlith y plant. Ar hyn o bryd, fodd bynnag, mae'n rhaid i bob disgybl gadw pellter 2 fetr oddi wrth bob oedolyn, fel y mae'r oedolion sy'n gweithio yn yr ysgol yn gwneud gyda'i gilydd. Nid oes unrhyw ddisgwyl i blant gadw pellter yn ystod amser cinio nac amser chwarae, tra eu bod tu fas, ac felly mi fydd y disgyblion yn cael cymysgu wrth chwarae yn yr awyr agored.

 

Felly y canllawiau newydd yn fras:

● O Fedi 14eg - bydd pob plentyn i mewn, bob dydd gyda 100% o'u dosbarth.

 

● Tu fewn ir ysgol mi fyddwn yn ceisio cadw at swigod dosbarth, ond tu fas mae’r plant yn gallu cymysgu. 

 

● Mi fydd system un ffordd i bawb ddilyn ar safle yr ysgol.

 

● Ni fydd darpariaeth clwb brecwast ar hyn o bryd.

 

 ● Mi fydd​ disgyblion yn gwisgo Gwisg Ysgol ym Mis Medi (dim gwisg ymarfer corff na trainers os gwelwch yn dda)

 

● Bydd cinio poeth ar gael o Fedi 14eg ond dim ond pecyn bwyd cyn hynny. Cofiwch mae angen archebu a thalu am ginio ar Parent Pay, lle mae copi or fwydlen ysgol ar eich cyfer.

 

● Disgwylir i ddisgyblion ddod â chas pensil a photel dwr o’r cartref, mae bag bach i gludo pecyn bwyd yn iawn a chot pe bai angen.

 

● Ni fydd unrhyw glybiau ar ôl ysgol am gyfnod - gobeithio cawn dechrau cynnig gweithgareddau allgyrsiol i’n plant unwaith eto yn y dyfodol.

 

● Gofynnir i chi barcio yn ddiogel yn y cylchfan troi a cherdded i mewn gyda’ch plentyn a dilyn y system un ffordd o gwmpas tir yr Ysgol – mi fydd staff ar gael i ddangos llwybrau yn ystod y dydd.

 

 ● Mi fydd ​y bysiau yn rhedeg gwasanaeth arferol, lle ​nad oes​ disgwyl i’ch plant wisgo mwgwd wrth deithio, mi fydd yr amseroedd codi a gollwng yn aros yr un fath a llynedd.Mae’r amserlenni ar ein gwefan.

 

Edrych ymlaen i weld pawb eto!         

 

Atodiad 1

Cyfeiriadau E-Bost yr Athrawon

Mrs Hedges

sharon.hedges@rhyd-y-grug.cymru

Mrs Donnison

bethan.donnison@rhyd-y-grug.cymru

Miss Sheppard

a.sheppard@rhyd-y-grug.cymru

Mr Morgan

rhodri.morgan@rhyd-y-grug.cymru

Mrs Davies

helen.davies@rhyd-y-grug.cymru

Mrs Tricker

bethan.tricker@rhyd-y-grug.cymru

Miss Clement

amanda.williams-clement@rhyd-y-grug.cymru

Mrs Evans

sue.evans@rhyd-y-grug.cymru

Miss Thomas

rebecca.thomas@rhyd-y-grug.cymru

Miss Long

s.long@rhyd-y-grug.cymru

Miss Jenkins

n.jenkins@rhyd-y-grug.cymrue

Miss Jones

e.jones@rhyd-y-grug.cymru

Mrs Phillips

sali.phillips@rhyd-y-grug.cymru

Top