Navigation
Home Page

Drudwy

 

 

Croeso i ddosbarth Drudwy!

 

Hoffwn gymryd y cyfle yma i egluro rhai o drefniadau’r tymor i chi. Ynghlwm â’r llythyr mae amlinelliad o thema'r tymor a’r gwaith y byddwn yn cyflawni yn y dosbarth.

 

Ein dosbarth

Yn nosbarth Drudwy mae yna 28 o ddisgyblion. Rydyn ni fel dosbarth yn gweithio’n galed ac yn mwynhau pob dydd. Rydyn ni yn ymdrechu i ddangos parch tuag at bawb a phopeth ac yn disgwyl derbyn yr un parch yn ôl. Y pobl mawr yn ein dosbarth yw Mr Morgan a Mr Denby.

 

Gwaith Cartref

Fe fydd gwaith cartref yn cael ei rhoi yn wythnosol ar brynhawn ddydd Gwener. Mae disgwyl i’r plant gwblhau'r dasg cartref a’i ddychwelyd yn ôl i’r ysgol erbyn bore dydd Mawrth.

Hefyd, mae disgwyl i bob plentyn ddarllen o leiaf un neu ddwy o dudalennau o’i llyfr darllen (Cymraeg a Saesneg) bob nos. Ni allwn bwysleisio ddigon y pwysigrwydd o ddarllen gyda’ch plentyn bob nos! Hefyd, mae’n bwysig iawn i ymarfer tablau gyda’ch plentyn yn gyson. Erbyn nawr, dyle fod eich plentyn yn hyderus gyda phob tabl. Fel tymor diwethaf, fe fydd prawf sillafu a thablau bob Dydd Gwener.

 

Addysg Gorfforol

Fe fydd gwersi Addysg Gorfforol yn digwydd bob dydd Iau. Y tymor yma, fe fydd y gwersi yn cymryd lle tu allan – ar y cae neu iard ac fe fyddwn yn neud gemau ac athletau. Fe fydd angen gwisg addas ar gyfer y sesiynau. Fel arfer, rwyf yn gofyn i ddisgyblion i wisgo crys-t gwyn (plaen) a siorts neu tracwisg du. Fe fydd angen treinars.

 

Ein Thema

Ein thema'r tymor yma yw ‘Iechyd Da'. Yn ystod y tymor fe fyddwn yn gwneud gweithgareddau ym mhob pwnc sy’n clymu mewn i’n thema. Fe fyddwn yn edrych yn fanwl ar yr Oes Fictoria ac yn astudio cerddoriaeth amgylcheddol. Yn ein gwaith Celf, fe fyddwn yn astudio artisitiaid sy'n enwog am ddefnyddio'r amgylchedd fel sbardun ar gyfer gwaith Celf e.e. Andy Goldsworthy. Yn ein gwersi Gwyddoniaeth fe fyddwn yn astudio 'Cynefinoedd Anifeiliaid' a 'Chadwyni Bwyd'. Fe fyddwn yn gwneud amrywiaeth o ymchwiliadau ymarferol ar y pwnc yma. Os oes gennych unrhyw wybodaeth am neu arbenigedd yn y pynciau uchod, fe fyddwn yn ddiolchgar os gallech chi eu rhannu gyda ni.

 

Diolch,

 

Mr Morgan

 

 

I would like to take this opportunity to explain some of the arrangements for this term and to outline the work we will be completing.

 

Our Class

There are 28 pupils in Drudwy class. We work hard and enjoy every day. We try and show respect to every person and every thing and we expect to be treated with that same respect ourselves. The adults in our class are Mr Morgan and Mr Denby.

 

Homework

Homework will be distributed weekly on a Friday afternoon. Homework is to be returned to school by Tuesday morning, please.

Pupils are also expected to read at least one or two pages of a reading book (Welsh and English) every night. I cannot emphasise enough the importance of reading with your child on a daily basis. Also, by now, pupils should be confident with their times tables. Please keep practicing and testing them at home on a regular basis. There will be times tables and spelling tests every Friday.

 

Physical Education

Physical Education lessons will take place on a Thursday each week. This term the sessions will be outdoor sessions, where we will be doing games and athletics. Please ensure that pupils have a suitable kit for these sessions. As always, I encourage pupils to wear a plain white T-shirt and black shorts or joggers (if it is windy or cold, a tracksuit is recommended). Pupils will require trainers for these sessions. 

 

Our Theme

Our class theme this term is ‘Good Health!'. We will be doing a variety of activities in every subject which tie in to this theme. In History we will be looking closely at the Victorian age. We will be studying the artwork of artists who are inspired by the environment such as Andy Goldsworthy. In Science, we will be learning about ‘Habitats' and 'Food Chains'.

 If you have any books, information or expertise on anything linked to our theme, we would be very grateful if you could share this with our class to aid the collection of learning resources and further pupils’ learning.

 

Thank you,

 

Mr Morgan

Top