Navigation
Home Page

Drudwy

Wythnos Eco - Llygredd Plastig

Croeso i dudalen Dosbarth Drudwy!

Welcome to Class Drudwy's page! 

 

   

 

Hoffwn gymryd y cyfle yma i egluro rhai o drefniadau’r tymor i chi. Dyma amlinelliad o thema'r tymor a’r gwaith y byddwn yn cyflawni yn y dosbarth.

 

Ein dosbarth

Yn nosbarth Drudwy mae yna 27 o ddisgyblion. Mae yna 14 o ddisgyblion Blwyddyn 5 ac 13 o ddigyblion Blwyddyn 4. Rydyn ni fel dosbarth yn gweithio’n galed ac yn mwynhau pob dydd. Rydyn ni yn ymdrechu i ddangos parch tuag at bawb a phopeth ac yn disgwyl derbyn yr un parch yn ôl. Y pobl mawr yn ein dosbarth yw Mr Morgan, Mrs Joll a Mrs Butcher.

 

Gwaith Cartref

Fe fydd gwaith cartref yn cael ei rhoi yn wythnosol ar brynhawn Ddydd Gwener. Mae disgwyl i’r plant gwblhau'r dasg cartref a’i ddychwelyd yn ôl i’r ysgol erbyn bore dydd Mawrth.

Hefyd, mae disgwyl i bob plentyn ddarllen o leiaf un neu ddwy o dudalennau o’i llyfr darllen (Cymraeg a Saesneg) bob nos. Ni allwn bwysleisio ddigon y pwysigrwydd o ddarllen gyda’ch plentyn bob nos! Hefyd, mae’n bwysig iawn i ymarfer tablau gyda’ch plentyn yn gyson. Erbyn nawr, dyle fod eich plentyn yn hyderus gyda phob tabl.

 

Addysg Gorfforol

Fe fydd gwersi Addysg Gorfforol yn digwydd bob Dydd Mawrth. Y tymor yma, fe fydd y gwersi yn cymryd lle tu fewn – yn y neuadd ac fe fyddwn yn neud gymnasteg. Fe fydd angen gwisg addas ar gyfer y sesiynau. Fel arfer, rwyf yn gofyn i ddisgyblion i wisgo crys-t gwyn (plaen) a siorts du. Does dim angen treinars.

 

Ein Thema

Ein thema'r tymor yma yw ‘Aur Du’ Yn ystod y tymor fe fyddwn yn gwneud gweithgareddau ym mhob pwnc sy’n clymu mewn i’n thema. Fe fyddwn yn edrych yn fanwl ar yr Oes Fictoria a'r ffrwydrad diwydiannol. Fe fyddwn yn dysgu am fwyd, dillad, amodau byw, bywyd ysgol a swyddi roedd plant yn neud yn ystod yr Oes Fictoria.  Yn ein gwersi Daearyddiaeth, fe fyddwn yn ymchwilio i hanes y pyllau glo yn yr ardal leol gan ei leoli ar fapiau ac astudio'r effaith cafodd y pyllau glo ar boblogaeth yr ardal. Yn ein gwersi Gwyddoniaeth fe fyddwn yn astudio hydoddi, toddi a rhewi, anweddu a'r cylchred dŵr. Fe fyddwn yn gwneud amrywiaeth o ymchwiliadau ymarferol ar y pwnc yma. Os oes gennych unrhyw wybodaeth am neu arbenigedd yn y pynciau uchod, fe fyddwn yn ddiolchgar os gallech chi eu rhannu gyda ni. 

 

Yn ein gwersi Iaith Cymraeg fe fyddwn yn astudio stori 'Moddion Rhyfeddol George' ac yn dysgu sut i ysgrifennu dyddiadur. Yn Saesneg, fe fyddwn yn astudio 'Charlotte's Web' ac yn ysgrifennu erthygl papur newydd yn seiliedig ar y stori . 

 

Diolch,

 

Mr Morgan

 

 

I would like to take this opportunity to explain some of the arrangements for this term and to outline the work we will be completing.

 

Our Class

There are 27 pupils in Drudwy class. There are 14 Year 5 pupils and 13 Year 4 pupils. We work hard and enjoy every day. We try and show respect to every person and every thing and we expect to be treated with that same respect ourselves. The adults in our class are Mr Morgan, Mrs Joll and Mrs Butcher.

 

Homework

Homework will be distributed weekly on a Friday afternoon. Homework is to be returned to school by Tuesday morning, please.

Pupils are also expected to read at least one or two pages of a reading book (Welsh and English) every night. I cannot emphasise enough the importance of reading with your child on a daily basis. Also, by now, pupils should be confident with their times tables. Please keep practicing and testing them at home on a regular basis.

 

Physical Education

Physical Education lessons will take place on a Tuesday each week. This term the sessions will be inside, where we will be doing gymnastics. Please ensure that pupils have a suitable kit for these sessions. As always, I encourage pupils to wear a plain white T-shirt and black shorts if possible. There is no need for any footwear.

 

Our Themes

Our class theme this term is ‘Black Gold’. We will be doing a variety of activities in every subject which tie in to this theme. In History we will be looking closely at the Victorians and learning about the food, clothing, living conditions, school and the jobs that children did during Victorian times. In Geography, we will be studying the locations of coal mines in our area and the affect the industrial revolution had on population in our area.  In Science, we will be learning about freezing and melting, evaporation and the water cycle. 

If you have any books, information or expertise on anything linked to our theme, we would be very grateful if you could share this with our class to aid the collection of learning resources and further pupils’ learning.

 

In our Welsh Language work, we will be studying the Roald Dahl story 'Moddion Rhyfeddol George' and learning how to write a diary entry based on the story. In our English lessons, we will be studying the film Charlotte's Web and writing a newspaper article tale based on the story.  

 

Thank you,

 

Mr Morgan

 

Top