Navigation
Home Page

Jac-Do

Croeso/Welcome 

Croeso i Ddosbarth Jac Do!
Welcome to Dosbarth Jac Do!



Mae yna 39 o ddisgyblion yn y Dosbarth Derbyn y flwyddyn hon.

Miss Jenkins yw’r athrawes ddosbarth.

Mrs Brown, Miss Williams a Miss Davey yw’r staff cynorthwyol ffantastig sy'n helpu yn yr ystafell ddosbarth.

There are 39 pupils in Reception Class this year.

Miss Jenkins is the class teacher. 

Mrs Brown, Miss Williams and Miss Davey are the fantastic support staff who help in the classroom.

 

Hoffwn nodi pa mor dda mae’r plant wedi ymgartrefu yn Nosbarth Jac Do. Mae nhw'n barod i weithio'n galed a chael hwyl yn y dosbarth pob diwrnod. 

 

I would like to note how well the children have settled into Dosbarth Jac Do. They are ready to work hard and have fun in class each and every day. 


Isod, ceir ychydig o wybodaeth rwy’n gobeithio bydd yn ddefnyddiol ar gychwyn y flwyddyn ysgol.

Below, there is some information I hope will be useful at the beginning of the school year.

 

 

Thema / Theme 

Ein thema y tymor hwn yw 'Anhygoel Fi'. 

Our theme this term is 'Marvellous Me'. 

 

 

Darllen / Reading
Bydd angen i ddisgyblion ddod a ffolder darllen i'r ysgol pob dydd Llun. Gofynnwn i chi ddarllen yn rheolaidd gyda’ch plentyn a rhannu eich cofnodion a sylwadau gyda ni ar ar Class Dojo .

Pupils will need to bring reading folders to school every Monday. We ask you to read regularly with your child and share records and comments with us via the Portfolio section on Class Dojo.



Gwaith Cartref/ Homework
Bydd gwaith cartref yn cael ei osod pob dydd Gwener a dylid ei gwblhau erbyn y dydd Iau canlynol. Bydd gweithgareddau/ tasgau yn cael ei gosod ar Class Dojo. Dylai gwaith cartref sydd wedi’i gwblhau gael ei dychwelyd drwy Class Dojo. Peidiwch ddanfon unrhyw waith cartref mewn i’r ysgol gyda’ch plentyn os gwelwch yn dda.

Homework will be sent out every Friday and should be completed by the following Thursday. Homework activities/ tasks will be set on Class Dojo. All completed work should be returned via Class Dojo. Please do not send any homework into school with your child.


Ymarfer Corff / Physical Education
Bydd gwersi ymarfer corff yn cymryd lle ar brynhawn Dydd Iau. Mae’n bwysig fod y disgyblion yn dod i’r ysgol mewn gwisg Ymarfer Corff addas (yn hytrach na gwisg ysgol) pob Dydd Iau. Mae hwn yn cynnwys crys t, leggings neu joggers a trainers.

Physical education lessons will take place every Thursday afternoon. It is important that pupils wear the appropriate PE kit to school (instead of school uniform) every Thursday. This includes a t-shirt, leggings or joggers and trainers.



Ffrwyth a Dŵr / Fruit and Water
Gall ddisgyblion ddod â ffrwyth eu hun yn ddyddiol i fwyta cyn amser chwarae bore. Nid oes ffrwyth ar gael i’w brynu yn yr ysgol ar hyn o bryd.

 

Os fyddwch yn danfon grawnwin i'r ysgol gyda'ch plentyn gallwch sicrhau ei fod nhw wedi torri os gwelwch yn dda. 

Gofynnwn a gall bob disgybl ddod â photel o ddŵr eu hunain pob diwrnod.

Pupils can bring their own fruit each day to eat before morning playtime. There is currently no fruit available to buy in school.


If you send grapes into school with your child please can you make sure that they are sliced.

 

We also ask that pupils bring their own bottles of water to school each day.



Dillad Sbâr/ Spare Clothes
Gofynnwn yn garedig i chi adael dillad sbâr ym mag eich plentyn i’w ddefnyddio mewn achos damwain.

We kindly ask you to leave spare clothes in your child’s school bag to be used in the case of any accidents.



Labelu Dillad/ Labelling Clothes
Gofynnwn yn garedig i chi sicrhau bod pob eitem o ddillad sy’n dod i’r ysgol wedi’u labelu yn glir gydag enw eich plentyn.

We kindly ask you to ensure that every item of clothing brought to school is clearly labelled with your child’s name.




Peidiwch ag oedi cysylltu os oes gennych unrhyw gwestiynau yn ystod y flwyddyn. Gallwch ddanfon e-bost i mi gan ddefnyddio n.jenkins@rhyd-y-grug.cymru. 

Please do not hesitate to get in touch if you have any questions during the year. You can send me an e-mail using n.jenkins@rhyd-y-grug.cymru. 


Diolch yn fawr,
Miss Jenkins

Lluniau / Pictures 
Top