Navigation
Home Page

Gwdi-hw

Miss Worton

Thema'r dosbarth y tymor yma yw 'Pethau Byw.' Byddwn yn canolbwyntio ar yr ardd, plannu a thrychfilod yn ystod yr hanner tymor gyntaf gan ddilyn gyda thema ar lân y môr yn ystod yr hanner tymor olaf.

Our class theme this term will be "Living Things". We will be concentrating on the garden , planting and insect life during the first half term , and then progressing to looking at the "Sea Shore" during the second half term.

 

Mae yna 21 o blant yn y dosbarth. Miss Worton yw'r athrawes ddosbarth a Mrs Carpenter sydd yn cynorthwyo.

There are 21 pupils in the class.Miss Worton is the classteacher and Mrs Carpenter is the member of support staff.

 

Ein diwrnod Addysg Gorfforol yw Dydd Mawrth. Mae angen dillad addas a phriodol ar gyfer y gwersi sef crys t a siorts wedi eu labelu'n glir gydag enw'r plentyn.

Our PE day is every Tuesday.The pupils need suitable and appropriate kit - T shirts and shorts - all items clearly labelled with their name and class.

 

Gofynnwn i chi ddanfon ffeil darllen y plant i'r ysgol yn ddyddiol gan gofnodi yn y llyfrau cofnod wrth ddarllen gyda'ch plentyn.

Danfonwyd gwaith cyswllt cartref adref bob Dydd Gwener yn ogystal â'r llyfr darllen. Bydd y gweithgareddau yn amrywio'n wythnosol ac yn seiliedig ar waith y dosbarth a gyflawnwyd yn ystod yr wythnos hynny.

We ask you to return the reading file to school on a daily basis , please remember to write your comments in the reading record. Home tasks will be sent out on a Friday - these will vary from week to week as they are directly linked to the work being carried out in the classroom during the week.

 

Byddwn yn brysur tymor yma yn datblygu'r ardal tu allan felly os allwch chi gefnogi drwy gyfrannu unrhyw blanhigion, potiau, hen offer cegin / coginio er mwyn creu 'mud kitchen' neu offer garddio byddwn yn ddiolchgar iawn!

We will be very busy during the summer term developing our outdoor area - if you have any old pots, pans , old kitchen equipment for us to create a mud kitchen , then please send them to school as soon as possible

Diolch yn fawr!

 

Miss Thomas

 

Croeso i dudalen dosbarth GwdihĊµ Miss Thomas. Ein thema y tymor hwn yw ‘Pethau byw’ a byddwn yn astudio pethau sy’n tyfu, ein synhwyrau, bwyta’n iach, ar lan y môr, gwingo ac ymlusgo a thu mewn/tu fas.

Welcome to our class page.Our theme this term is "Living Things" and we will be studying plants , our senses , healthy eating as well as life on the sea-shore during the second half term.

 

Mae 20 o blant yn ein dosbarth ac rydym yn derbyn cymorth gan Mrs Whitney a Mrs Thomas. 

There are 20 pupils in the class - Miss Thomas is the classteacher and Mrs Whitney and Mrs Thomas are the members of support staff.

 

Fe fydd addysg gorfforol ar ddydd Mawrth, felly mae'n rhaid i ni gofio ein cit! Ar gyfer ein gwersi fe fydd angen dillad ymarfer corff ac esgidiau ymarfer.

Our PE day is on a Tuesday - please remember to send pupils to school with their correct kit - all clearly labelled.

 

Rhaid i ni gofio i ddychwelyd ein gwaith cartref pob dydd Mawrth, yn ogystal â'n llyfrau darllen pob dydd.

Home tasks are to returned every Tuesday and reading folders should be brought back to school on a daily basis. 

 

Gallwch ein help trwy anfon bocsys wyau i’r ysgol er mwyn i ni gasglu pethau tu fas. Mae croeso i chi anfon eitemau diddorol sy’n cysylltu â ‘Pethau byw’ i’r ysgol er mwyn eu dangos.

We would be grateful for any egg boxes in order for us to collect outdoor objects. If you have any exciting or interesting items that you think would help our Living Things theme , then please send them to school. 

 

Diolch.

Top