Navigation
Home Page

Gwennol

 

Croeso i dudalen Dosbarth Gwennol!

 

Welcome to our class page!

 

Ein thema y tymor yma ydy ‘Teithio trwy’r ganrif’

 

Yn ystod ein gwersi Hanes fe fyddwn yn edrych ar fywyd ym Mhrydain yn ystod yr Ail Ryfel Byd a thu hwnt. Bydd gwersi Celf yn ffocysu ar ddarluniau eiconig y 1940au a’r 1950au a byddwn yn astudio cerddoriaeth roc a rôl yn ein gwersi Cerddoriaeth. Trwy ein hastudiaethau Gwyddoniaeth byddwn yn dysgu sut mae grymoedd yn gweithio. Hefyd, byddwn yn dilyn y gemau Paralympaidd gyda diddordeb mawr dros yr wythnosau nesaf a dysgu mwy am y gwahaniaethau rhwng Cymru a Brasil.

 

Byddwn yn ffocysu ein gwaith Saesneg ar lyfr David Walliams ‘Gangsta Granny’ a’n gwaith Cymraeg ar lyfr ‘Rhyfel Sam’ gan Glenys Lloyd.

 

Os oes gennych unrhyw wybodaeth neu arbenigedd yn y pynciau uchod, fe fyddwn yn ddiolchgar os gallech chi eu rhannu gyda ni.

 

 

This term's theme is ‘Travelling through the century’

 

Within our History lessons we will be looking at what life in Britain was like during and after the Second World War. Art lessons will focus upon the iconic images of the 1940s and 1950s and we will be looking at the genre of rock and roll in our Music lessons. During our Science lessons we will be looking at how different forces work. We will also be avidly following the Paralympic games over the next few weeks and learning about the host nation, Brazil.

 

We will be reading ‘Gangsta Granny’ by David Walliams in our English lessons and our Welsh lessons will focus around the story of an evacuee in ‘Rhyfel Sam’ by Glenys Lloyd.

 

 

If you have any information or expertise on anything linked to our topics, we would be grateful if you could share this with our class.

 

 

Rydym yn ddosbarth prysur, brwdfrydig a bywiog. Mae 25 o blant yn ein dosbarth; 17 bachgen a 8 mech.

 

We are a busy, enthusiastic and lively class. There are 25 children in our class; 17 boys and 8 girls.

 

Dydd Mecher ydy ein diwrnod Addysg Gorfforol a bydd angen gwisg addas: siorts, crys-t, trainyrs a gwisg tracsiwt yn y gaeaf.

 

Wednesday is our P.E. day and all pupils will need a suitable kit: shorts, t-shirt and trainers and tracksuit bottoms in the winter.

 

Fel arfer, gosodir gwaith cartref o ryw fath ar ddydd Gwener a rhaid cofio ei ddychwelyd erbyn y Dydd Mawrth canlynol. Disgwylir i bob plentyn ddarllen llyfrau Saesneg a Chymraeg yn gyson adref. Ar ben hyn mae gen bob disgybl set o dablau Mathemateg a geiriau sillafu Cymraeg a Saesneg (yn briodol ar gyfer eu lefel personol) yn eu ffowlderi ‘Cyswllt Cartref’.

 

Homework is usually set on Fridays and should be returned the following Tuesday. All children are expected to read both English and Welsh reading books regularly at home All children also have a set of times tables and spelling words, which are appropriate for the level at which they are working, in their 'Cyswllt Cartref' folders.

 

  

Diolch, Mrs. Donnison

Croeso i dymor yr haf!

 

Ein thema y tymor yma ydy ‘Iechyd Da'.

 

Yn ystod ein gwersi Hanes fe fyddwn yn dysgu am hanes ein hardal leol ac yn astudio mwy am byllau glo y De, trychineb Aberfan a stori Dic Penderyn. Byddwn yn astudio effaith digoedwigo ar y goedwig law.  Trwy ein hastudiaethau Gwyddoniaeth byddwn yn dysgu am brosesau bywyd a phethau byw. I gydfynd gyda’n gwaith Daearyddiaeth byddwn yn darllen y nofel ‘Journey to the River Sea’ er mwyn deall mwy am yr afon adnabyddus; yr Amason.  Ar gyfer ein gwaith iaith byddwn yn ffocysu ar waith ffeithiol ar y wlad Patagonia ac ysgrifennu perswadiol yn ein gwaith Saesneg, wedi'i seilio ar y ffilm 'Brave'. 

 

We have another busy term ahead!

 

Os oes gennych unrhyw wybodaeth neu arbenigedd yn y pynciau uchod, yn enwedig os hoffech gyfrannu eich hanesion a gwybodaeth am hanes leol fe fyddwn yn ddiolchgar os gallech chi eu rhannu gyda ni.

 

Welcome to the summer term!

 

This term's theme is ‘Healthy Living’.  

 

Within our History lessons we will be studying local history events such as the Aberfan disaster, the story of Dic Penderyn and the impact of the coal mining industry on the local area. During our Science lessons we will be studying life processes and living things. Within our Geography lessons we will be looking at the effects of deforestation on the rainforest. We will be reading the novel ‘Journey to the River Sea’ to learn more about the famous Amazon river. In English, our persuasive writing and language work will be based upon Disney's 'Brave' and in Welsh we will be learning and writing about the history and culture of Patagonia. 

 

Another busy term ahead!

 

If you have any information or expertise on anything linked to our topics, particularly if you have any information about local history, we would be grateful if you could share this with our class.

 

Dydd Mercher ydy ein diwrnod Addysg Gorfforol a bydd angen gwisg addas: siorts, crys-t a threinyrs. 

 

Wednesday is our P.E. day and all pupils will need a suitable kit: shorts, t-shirt and trainers.

 

Fel arfer, gosodir gwaith cartref o ryw fath ar ddydd Gwener a rhaid cofio ei ddychwelyd erbyn y Dydd Mawrth canlynol. Disgwylir i bob plentyn ddarllen llyfrau Saesneg a Chymraeg yn gyson adref. Ar ben hyn mae gan bob disgybl set o dablau Mathemateg a geiriau sillafu Cymraeg a Saesneg (yn briodol ar gyfer eu lefel personol) yn eu ffowlderi ‘Cyswllt Cartref’. Rydym yn ffocysu ar adolygu tablau 6,7 ac 8 yn ystod yr hanner tymor yma. Gwerthfawrogwn yn fawr os gallech chi brofi eich plentyn ar ei dablau yn gyson adref.

 

Homework is usually set on Fridays and should be returned the following Tuesday. All children are expected to read both English and Welsh reading books regularly at home. All children also have a set of times tables and spelling words, which are appropriate for the level at which they are working, in their 'Cyswllt Cartref' folders. We are focusing on revising the 6, 7 and 8 times tables this half term. It would be greatly appreciated if you could test your child on their times tables on a regular basis.

 

Cofiwch ein dilyn ar Drydar: @GwennolRYG

 

Remember to follow us on Twitter: @GwennolRYG

 

Gwefannau defnyddiol:

        

http://www.bbc.co.uk/cymru/gemau/

 

http://www.bbc.co.uk/bitesize/ks2/english/spelling_grammar/

 

http://adnoddau.cbac.co.uk/Pages/ResourceSingle.aspx?rIid=71

 

http://www.topmarks.co.uk/Flash.aspx?f=SpeedChallenge

Croeso i dymor y Gwanwyn!

 

Welcome to the Spring term!

 

Ein thema y tymor yma ydy ‘Hen Wlad Fy Nhadau'.

 

Yn ystod ein gwersi Hanes fe fyddwn yn edrych ar fywyd y Celtiaid a'r Rhufeiniaid. Bydd gwersi Celf yn ffocysu ar artistiaid Cymraeg adnabyddus fel Martyn Evans a byddwn yn edrych ar effaith twristiaeth ar Gymru yn ein gwersi Daearyddiaeth. Trwy ein hastudiaethau Gwyddoniaeth byddwn yn dysgu am y gylchred ddŵr. Ein llyfr dosbarth y tymor hwn yw ' The Amazing Story of Adolphus Tips' gan Michael Morpugo.

 

Os oes gennych unrhyw wybodaeth neu arbenigedd yn y pynciau uchod, fe fyddwn yn ddiolchgar os gallech chi eu rhannu gyda ni.

 

 

This term's theme is 'Land of my Fathers'.  

 

Within our History lessons we will be studying the Celts and the Romans. Art lessons will focus upon the work of famous Welsh artists such as Martyn Evans. During our Science lessons we will be looking at the water cycle and within Geography lessons we will be looking at the effect of tourism on Wales. Our class book this term will be 'The Amazing Story of Adolphus Tips' by Michael Morpurgo.

 

If you have any information or expertise on anything linked to our topics, we would be grateful if you could share this with our class.

 

Dydd Mercher ydy ein diwrnod Addysg Gorfforol a bydd angen gwisg addas: siorts, crys-t, trainyrs a gwisg tracsiwt yn y gaeaf.

 

Wednesday is our P.E. day and all pupils will need a suitable kit: shorts, t-shirt and trainers and tracksuit bottoms in the winter.

 

Fel arfer, gosodir gwaith cartref o ryw fath ar ddydd Gwener a rhaid cofio ei ddychwelyd erbyn y Dydd Mawrth canlynol. Disgwylir i bob plentyn ddarllen llyfrau Saesneg a Chymraeg yn gyson adref. Ar ben hyn mae gan bob disgybl set o dablau Mathemateg a geiriau sillafu Cymraeg a Saesneg (yn briodol ar gyfer eu lefel personol) yn eu ffowlderi ‘Cyswllt Cartref’. Rydym yn ffocysu ar ddysgu tabl 8 yn ystod yr hanner tymor yma. Gwerthfawrogwn yn fawr os gallech chi brofi eich plentyn ar ei dablau yn gyson adref.

 

Homework is usually set on Fridays and should be returned the following Tuesday. All children are expected to read both English and Welsh reading books regularly at home. All children also have a set of times tables and spelling words, which are appropriate for the level at which they are working, in their 'Cyswllt Cartref' folders. We are focusing on learning the 8 times table this half term. It would be greatly appreciated if you could test your child on their times tables on a regular basis.

 

Cofiwch ein dilyn ar Drydar: @GwennolRYG

 

Remember to follow us on Twitter: @GwennolRYG

 

Gwefannau defnyddiol:

 

http://www.bbc.co.uk/cymru/gemau/

 

http://www.bbc.co.uk/bitesize/ks2/english/spelling_grammar/

 

http://adnoddau.cbac.co.uk/Pages/ResourceSingle.aspx?rIid=71

 

http://www.topmarks.co.uk/Flash.aspx?f=SpeedChallenge

 

Trip Nadolig

Coginio pasta llysiau a frittatas 23.9.15

Coginio swyrliau a chacennau caws 16.09.15

Croeso i dudalen Dosbarth Gwennol!

 

Welcome to our class page!

 

Ein thema y tymor yma ydy ‘Teithio drwy’r ganrif’

 

Yn ystod ein gwersi Hanes fe fyddwn yn edrych ar fywyd ym Mhrydain ers diwedd yr Ail Ryfel Byd. Bydd gwersi Celf yn ffocysu ar artistiaid enwog y 1940au a’r 1950au a byddwn yn astudio cerddoriaeth roc a rôl yn ein gwersi Cerddoriaeth. Cawn gyfle i gael gwersi coginio bob brynhawn dydd Mercher yr hanner tymor yma gyda Mrs Jones o gwmni coginio ‘Tastebuddies’. Trwy ein hastudiaethau Gwyddoniaeth byddwn yn dysgu sut mae grymoedd yn gweithio. Hefyd, byddwn yn dilyn Cwpan Rygbi’r Byd gyda diddordeb mawr dros yr wythnosau nesaf a dysgu mwy am y gwledydd sy’n cystadlu.

 

Os oes gennych unrhyw wybodaeth neu arbenigedd yn y pynciau uchod, fe fyddwn yn ddiolchgar os gallech chi eu rhannu gyda ni.

 

 

This term's theme is ‘Travelling through the century’

 

Within our History lessons we will be looking at what life was like in post war Britain. Art lessons will focus upon the work of famous artists during the 1940s and 1950s and Music lessons will focus upon rock and roll music. On Wednesday afternoon’s there will be cookery lessons with Mrs Jones from ‘Tastebuddies’. During our Science lessons we will be looking at how different forces work. We will also be avidly following the Rugby World Cup over the next few weeks and learning about the countries competing.

 

If you have any information or expertise on anything linked to our topics, we would be grateful if you could share this with our class.

 

 

Rydym yn ddosbarth dymunol, brwdfrydig a bywiog. Mae 28 o blant yn ein dosbarth; 20 merch ac 8 bachgen.

 

We are a likeable, enthusiastic and lively class. There are 28 children in our class; 20 girls and 8 boys.

 

Dydd Iau ydy ein diwrnod Addysg Gorfforol a bydd angen gwisg addas: siorts, crys-t, trainyrs a gwisg tracsiwt yn y gaeaf.

 

Thursday is our P.E. day and all pupils will need a suitable kit: shorts, t-shirt and trainers and tracksuit bottoms in the winter.

 

Fel arfer, gosodir gwaith cartref o ryw fath ar ddydd Gwener a rhaid cofio ei ddychwelyd erbyn y Dydd Mawrth canlynol. Disgwylir i bob plentyn ddarllen llyfrau Saesneg a Chymraeg yn gyson adref. Ar ben hyn mae gan bob disgybl set o dablau Mathemateg a geiriau sillafu Cymraeg a Saesneg (yn briodol ar gyfer eu lefel personol) yn eu ffowlderi ‘Cyswllt Cartref’. Rydym yn ffocysu ar ddysgu tabl 7 yn ystod yr hanner tymor yma. Gwerthfawrogwn yn fawr os gallech chi brofi eich plentyn ar ei dablau yn gyson adref.

 

Homework is usually set on Fridays and should be returned the following Tuesday. All children are expected to read both English and Welsh reading books regularly at home. All children also have a set of times tables and spelling words, which are appropriate for the level at which they are working, in their 'Cyswllt Cartref' folders. We are focusing on learning the 7 times table this half term. It would be greatly appreciated if you could test your child on their times tables on a regular basis.

 

Cofiwch ein dilyn ar Drydar: @GwennolRYG

 

Remember to follow us on Twitter: @GwennolRYG

 

http://www.bbc.co.uk/cymru/gemau/

 

http://www.bbc.co.uk/bitesize/ks2/english/spelling_grammar/

 

http://adnoddau.cbac.co.uk/Pages/ResourceSingle.aspx?rIid=71

 

http://www.topmarks.co.uk/Flash.aspx?f=SpeedChallenge

 

Diolch, Mrs. Donnison

Top